Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Hyd a lled yr arfordir, a draw am glawdd offa - taith ryfeddol awdur o gwmpas Cymru

Dros gyfnod o bedair blynedd, aeth yr awdur Gareth Evans-Jones ati i gerdded o amgylch Cymru, gan ddilyn llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa. Cylchu Cymru ydi ffrwyth y teithiau hynny. Mae’r gyfrol yn cynnig inni fewnwelediad cryno i’r lleoliadau, ac yng ngeiriau’r awdur ei hun, mae’n cwmpasu ‘eu straeon, eu hanes, eu chwedloniaeth, a’u cyfaredd’ – a hynny drwy gyfrwng llenyddiaeth greadigol, lluniau trawiadol a dylunio lliwgar Olwen Fowler.

Meddai Manon Steffan Ros am y gyfrol:

‘Mae’r straeon yma’n stori garu gymhleth, gyfareddol rhwng y Gymru gyfoes a’i phobl.’

Mae Cylchu Cymru yn gasgliad gwreiddiol ac unigryw, ac mae i’r straeon eu rhamant, eu hysgafnder a’u tynerwch eu hunain. O gyrraedd y daith olaf yn y casgliad, mae’n teimlo fel petai’r darllenydd wedi gwneud cylch union a chyflawn o amgylch trwch arfordir Cymru. Ond, cyfaddefa Gareth ei hun: ‘Gallwn fod wedi ymateb i lawer mwy o lefydd ond oherwydd y prinder gofod, cyfyngwyd y sylw i 60 lle penodol.’

Yr hyn sy’n gwneud i’r gyfrol sefyll ar wahân i lyfrau teithiol tebyg yw’r ymatebion telynegol i’r lleoedd, sydd o ganlyniad yn dod â haenen newydd o ystyr iddynt. At hynny, aiff yr awdur gam ymhellach a chynnwys adran yng nghlo’r gyfrol sy’n rhoi inni air am gefndir y darnau. Yma, cawn gyfoeth o ffeithiau bachog a difyr am y gwahanol leoedd ar hyd y ffordd, ac eglurhad dros pam i’r perlau hyn ddod yn sylfaen i’w ymatebion creadigol.

Mae rhywun yn darganfod, felly, fod Mynydd Parys, Amlwch yn cael ei adnabod fel ‘tamaid o fyd arall’, ‘Mars Ynys Môn.’ Cofiwn hefyd am y 400 o risiau sydd angen eu cerdded er mwyn cyrraedd goleudy Ynys Lawd. Bydd aml i un yn dysgu o’r newydd fod yna gefndir maleisus i’r Fenni, a welodd hil-laddiad gwaethaf Cymru’r Oesoedd Canol.

O edrych ar gorff y gyfrol ar ei hyd, amhosib yw peidio â theimlo’r hiraeth a’r ysbrydoliaeth a deimla’r awdur at ei wlad. Mae’n ‘mapio Cymru mewn ffordd afaelgar a chynnes,’ ategodd Manon Steffan Ros, ac yn gorffen y cwbl yn y man a welodd ei ddechreuad – ‘Traeth Bychan. Adref.’

Mae Cylchu Cymru gan Gareth Evans-Jones ar gael nawr (Y Lolfa, £12.99).