Atgyfodi poster eiconig i ddathlu hanner canmlwyddiant
Bydd Y Lolfa yn ailgyhoeddi poster i hyrwyddo Maes B, record sengl Y Blew, y grwp trydanol cyntaf i ganu yn Gymraeg.
'Rwy'n falch iawn ein bod ni'n ailgyhoeddi poster eiconig Y Blew gan Dafydd Evans, oedd yn hyrwyddo eu hunig record, Maes B, nôl yn 1967' meddai Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg y Lolfa, 'Gan mai yn y flwyddyn honno y sefydlwyd Y Lolfa, hanner canrif yn ôl, mae'n ddigwyddiad o arwyddocâd i ni fel gwasg, hefyd'.
'Nid pawb sy'n sylweddoli mai Y Blew oedd yn gyfrifol am y cyngerdd 'roc' cyntaf Cymraeg erioed, ym mis Mawrth 1967, yn y Neuadd Goffa, Talybont.' ychwanegodd Robat, 'Doedd yr un grwp Cymraeg, cyn hynny, wedi mentro defnyddio offer trydanol yn gyhoeddus. Roedd y swn byddarol yn sioc i bawb, a'r pentre'n crynu. Ond roedd y neuadd dan sang, a'r arian yn llifo i mewn goffrau Capel Tabernacl, yr o'n i wedi trefnu'r cyngerdd ar ei gyfer.'
Aeth Y Blew ymlaen wedyn i berfformio yn y Babell Lên yn Eisteddfod Y Bala cyn mynd ar daith lwyddiannus o gwmpas Cymru. Yn anffodus chwalodd y grwp yn fuan wedyn wrth i'r aelodau adael coleg Aberystwyth.
Meddai Dafydd Evans, gitârydd bas Y Blew a mab i Gwynfor Evans, 'Rwy'n falch i weld bod Y Blew yn dal i dyfu a dylanwadu hanner canrif yn ddiweddarach!'
Dywedodd Fflur Arwel, Pennaeth Marchnata'r Lolfa, 'Rydym yn gobeithio bydd y poster yn apelio at y rheiny fydd yn cofio grwp Y Blew ond bydd yr arddull chwedegol yn apelio ac yn denu y genhedlaeth iau nad oedd o gwmpas yn ystod cyffro diwedd y chwedegau'.
Bydd y poster ar werth yn Ffair Recordiau cylchgrawn Y Selar ar yr 11eg o Chwefror yn Aberystwyth rhwng 10 a 4 o'r gloch.
Meddai Toni Schiavone, un o drefnwyr y ffair,
'Mae ond yn briodol ein bod yn arddangos y poster eiconig hwn gan fand fu mor ddylanwadol yn y sin roc Gymraeg – a hynny yn nigwyddiad ffair recordiau orau'r gorllewin ble daw rhai o fasnachwyr gorau Cymru at ei gilydd.'
Bydd y gyfrol Y Blew a Buddugoliaeth Gwynfor, sydd yn adrodd canu pop, crefydd a gwleidyddiaeth y cofnod yn ogystal â ieuenctid Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, hefyd ar werth yn y ffair am bris arbennig o £5.