Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gyda'n gilydd yn gryfach - Cyhoeddi yr unig lyfr Cymraeg am yr Ewros

Yr wythnos hon gwelir cyhoeddi yr unig lyfr Cymraeg am bencampwriaeth Ewros 2016.

Cyfrol gynhwysfawr sydd yn dilyn hanes ymgyrch Cymru i gyrraedd pencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc yw Ewro 2016 gan Dylan Ebenezer. Bydd yn cynnwys hanes am y timau eraill yn y gystadleuaeth yn ogystal a gwybodaeth am y chwaraewyr gorau i gyd.

Caiff ei chyhoeddi yn sgil llwyddiant tîm pêl droed Cymru o gyraedd pencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc.

'Mae 58 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers i Gymru gyrraedd un o brif gystadlaethau'r byd pêl-droed,' meddai awdur y gyfrol, Dylan Ebenezer, 'Ond bellach mae tîm pêl-droed Cymru ar ei ffordd i Ffrainc, ynghyd â miloedd o gefnogwyr llawn cyffro o bob oed sy'n cael gwireddu breuddwyd o'r diwedd a chyfle i sêr fel Bale, Ramsey ac Allen wneud eu marc!'

Diolchodd Osian Roberts, rheolwr cynorthwyol tîm Cymru, i gefnogwyr y tîm am eu cefnogaeth,

'Mae'r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn gyffrous tu hwnt i bêl-droed Cymru, ond dydy hynny'n ddim i'w gymharu â'r hyn fydd yn digwydd yn Ffrainc yr haf yma.' meddai Osian, 'O'r diwedd mae Cymru wedi cyrraedd prif gystadleuaeth ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at herio'n hunain yn erbyn goreuon y byd pêl-droed.'

'Ble bynnag byddwch yn gwylio'r gêmau, diolch am eich cefnogaeth, nid yn unig yn ddiweddar ond yn

ystod y dyddiau anodd hefyd. Mae'n golygu cymaint i bawb sy'n rhan o'r tîm arbennig yma. Gyda'n gilydd yn gryfach.' ychwanegodd.

Bydd y gyfrol yn addas ar gyfer pob oed ond yn bennaf ar gyfer plant rhwng 9 ac 13 oed. Bydd y llyfr hefyd yn cynnwys siart i gofnodi sgoriau holl gêmau cystadleuaeth Ewro 2016 fydd yn dod yn rhad ac am ddim gyda'r llyfr.

'Mae cymaint o sôn am gefnogwyr pêl-droed – a rheiny o bob oedran, yn prynu llyfrau sticeri Panini ac yn gwirioni arnynt.' meddai Fflur Arwel, pennaeth marchnata Y Lolfa, 'Ond rydym yn gobeithio bydd pobl hefyd yn prynu llyfr Cymraeg am y pencampwriaeth gan gyhoeddwyr o Gymru.'

Mae Dylan Ebenezer yn wyneb a llais cyfarwydd i wylwyr S4C ac i wrandawyr Radio Cymru. Mae'n awdur ac yn cyflwyno rhaglenni chwaraeon fel Sgorio a Camp. Ym mis Ionawr eleni fe gyhoeddodd Gorau Chwarae Cydchwarae, llyfr sy'n olrhain taith tîm Cymru i gyrraedd pencampwriaeth Ewro 2016.

Bydd tîm pêl-roed Cymru yn chwarae eu gêm gyntaf yn erbyn Slovakia ar yr 11eg o Fehefin yn Bordeuax.