Gweld y byd trwy lyfrau un Cymro
Dim ond naw oed oedd Gerald Morgan pan ddechreuodd gasglu llyfrau gyda'i arian poced. Erbyn hyn, mae'n berchen ar lyfrgell drawiadol sy'n dweud cyfrolau am y dyn ei hun.
Er mai llyfrau Cymraeg sy'n mynd â'i fryd, fe'i magwyd ar aelwyd Saesneg yn Brighton, a chafodd ei brofiad cyntaf o bori mewn siop llyfrau Cymraeg y tu allan i Gymru, yn Siop Griffs yn Cecil Court yn Llundain.
Mae Cymro a'i Lyfrau yn llawn hanesion difyr am daith bywyd yn frith o lwyddiannau a siomedigaethau wrth iddo hel yr hyn sy'n dystion papur i iaith a diwylliant Cymru, ac mae'n dweud cymaint am y Cymro diddorol hwn ag unrhyw stori a geid rhwng dau glawr.
'Nid hunangofiant go iawn yw'r gwaith' mae Gerald yn cyfaddef, 'ond cofnod o berthynas un dyn â'i lyfrau.
'Bu llyfrau'n bwysig i mi ers fy mhlentyndod, ond cyn 1958 roedden nhw'n llyfrau Saesneg bob un, heblaw i mi, yn naw oed, wario pres poced wythnos (chwecheiniog) ar Welsh in a Week, a sylweddoli na allwch chi gredu popeth mae pobl yn ei ddweud, hyd yn oed mewn print.
'Yn wyneb tlodi, yn wyneb pob math arall o anhawster, roedd nifer o bobl Cymru'n barod dros y blynyddoedd i brynu llyfrau hyd at aberth,' meddai Gerald 'Heddiw mae gwaith y Cyngor Llyfrau Cymraeg a chyhoeddwyr goleuedig yn rhoi pob math o lyfrau o'n blaen, ac mai bai difrifol arnom fel Cymry Cymraeg os nad ydym yn manteisio ar hynny.' meddai.
Mae Gerald Morgan yn hanesydd ac yn athro uchel ei barch a gyhoeddodd nifer o lyfrau, gan gynnwys Ar Drywydd Dewi Sant ac A Brief History of Wales. Bu'n brifathro Ysgol Gyfun Llangefni ac Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth cyn dechrau ail yrfa'n dysgu Cymraeg a hanes lleol yn Adran Efrydiau Allanol Prifysgol Cymru, Aberystwyth.