Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gwasg ddigidol newydd Y Lolfa yn creu argraff

Mae gwasg Y Lolfa yn Nhalybont wedi buddsoddi mewn gwasg argraffu ddigidol newydd fel ychwanegiad i weisg litho’r cwmni. Y Lolfa, sy’n cyflogi 20 o weithwyr, yw un o’r cwmniau cyntaf ym Mhrydain i brynu’r Xerox Versant 180. Bydd y wasg newydd yn galluogi’r cwmni i argraffu gwaith digidol o’r safon uchaf bosib.

Dywedodd Paul Williams, Rheolwr Gwaith y cwmni, “Mae yna alw cynyddol am argraffu digidol a bydd y wasg newydd yn ein galluogi i argraffu taflenni, posteri, cylchgronau a hyd yn oed llyfrau lliw llawn am brisiau rhesymol dros ben. Mae’r wasg hefyd yn ein caniatau i droi gwaith yn gyflym gyda’r safon argraffu gorau ar y farchnad.”


I gyd-fynd gyda’r datblygiad mae’r Lolfa wedi lansio gwefan ryngweithiol newydd a ddatblygwyd gan Gwerin o Langwyrfon. Yn ogystal â bod yn lwyfan i lyfau’r Lolfa mae’r wefan www.ylolfa.com yn cynnig cyfle i unigolion a chwmniau holi am brisiau argraffu.


Os am gyngor neu bris ar unrhyw waith argraffu gellir cysylltu â Paul Williams ar 01970 831901 neu [email protected]