Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Grav yn dal i ysbrydoli ddegawd ers ei golli

Dros ddegawd ers colli Grav, mae’r cof a’r parch iddo mor amlwg ag erioed, gyda llyfr newydd yn cael ei gyhoeddi o’r enw Storis Grav. Yr hyn a ysbrydolodd Rhys Meirion i gofnodi llyfr o Storïau am Ray Gravell oedd y ffaith ei fod dal yn gymaint o destun sgwrs, a bod gan bawb eu ‘stori Grav’.

 

“Heb os nac oni bai, un o gymeriadau mwyaf Cymru erioed yw'r enigma o Fynydd y Garreg, Ray Gravell,” meddai Rhys Meirion, “ac wrth holi pobl daeth yn glir fod yna gannoedd o storis am Grav, a’r mwyafrif heb eu cofnodi yn unman.”

 

Lansiwyd y gyfrol ar nos Wener 9fed o Dachwedd yn neuadd Pontyberem mewn cyngerdd arbennig gydag Elin Fflur, Aled Wyn Davies a Rhys Meirion ei hun yn perfformio – noson oedd yn cynnwys rhai caneuon oedd yn agos iawn at galon Ray.

 

Mae yna hanesion yn y llyfr amdano fel chwaraewr rygbi i Lanelli, Cymru a’r Llewod gan sêr fel Gareth Edwards, Phil Bennett, Gerald Davies a Clive Rowlands. Ceir hefyd hanesion annwyl amdano gan ei deulu ac eraill gan ffrindiau a chydweithwyr gan gynnwys Sarra Elgan, Keith Davies, Mansel Thomas, Gareth Charles a Roy Noble.

 

Meddai Lefi Gruffudd o’r Lolfa: “Mae rhai storïau adnabyddus yn y llyfr, fel yr un ohono’n torri ar draws darllediad Grandstand adeg gêm ryngwladol, ond mae’r mwyafrif helaeth yn storïau anghyfarwydd sy’n dangos sawl ochr i’w gymeriad, yn cynnwys ei garedigrwydd a’i ddireidi chwedlonol.” Ceir cyfraniadau hefyd gan Mari, Gwenan a Manon amdano fel gŵr a thad balch – y teulu oedd yn golygu cymaint iddo.