Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Gerald Morgan yn datgelu pennod goll yn hanes y Gymraeg

Ni ddeallai neb cyn y 1990au bod dros fil o ddogfennau cyfreithiol Cymraeg yn cuddio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd y dogfennau profeb yma’n cynnwys ewyllysiau, rhestri eiddo a llythyrau. Mae Ewyllysiau Cymraeg: Pennod Goll yn Hanes yr Iaith gan Gerald Morgan (Y Lolfa) yn llyfr dadlennol a diddorol am sawl rheswm. Mae’r gyfrol yn caniatáu i bobl ddarllen dymuniadau a geiriau olaf Cymry cyffredin o 1560 hyd at 1858.

Meddai’r awdur Gerald Morgan:
“Credaf fod y pwnc yma’n taflu goleuni newydd ar gyfnod o hanes. Mae e’n dangos agwedd newydd ar y berthynas rhwng cyfraith Lloegr a’r Gymraeg.”

Dywedir yn aml bod y Gymraeg wedi ei gwahardd fel iaith cyfraith gan Ddeddfau 1535/42. Mae hynny’n wir o ran cofnodion cyfraith troseddau ac achosion sifil. Ond roedd grym cyfreithiol i fusnes yr Eglwys Wladol, a sylweddolodd nifer cynyddol o bobl bod modd ysgrifennu eu hewyllysiau yn Gymraeg. Roedd awdurdodau’r Eglwys yn sylweddoli bod rhaid cydnabod y dogfennau hyn fel dogfennau cyfreithiol; felly y bu, ac felly y mae heddiw.

Lluniwyd nifer helaeth o’r ewyllysiau ar lafar gan deulu neu chymdogion oedd gyda’r claf ar ei wely angau. Roedd hi’n gyfnod pan oedd llawer methu ysgrifennu, a llawer methu siarad Saesneg. Mae’r dogfennau yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr ac yn fodd o astudio bywydau a theuluoedd pobl y gorffennol – eu dodrefn, eu hanifeiliaid a’u hoffer. Yn ôl ei arfer mae’r awdur wedi darganfod llu o storïau difyr a chofiadwy ar hyd y daith.