Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ffrindiau oes yn cydweithio i greu llyfr Deian a Loli

Yn dilyn llwyddiant ysgubol y gyfres deledu Deian a Loli, mae’r Lolfa ar fin cyhoeddi’r llyfr cyntaf mewn cyfres newydd am yr efeilliaid direidus sydd â phwerau hudol ym mis Gorffennaf.

Mae Deian a Loli, a ffilmiwyd gan Gwmni Da, eisoes yn adnabyddus a phoblogaidd gan blant Cymru. Mae’r antur gyntaf, sef Bai ar Gam yn gweld y ddau’n dysgu am fyd natur, ac adar yn benodol, ac mae’r gyfrol wedi ei darlunio gan  Nest Llwyd Owen sydd wedi llwyddo i ddod â’r cymeriadau’n fyw gyda lliwiau cyfoethog a gweadeddau gwahanol.

Mae Angharad Elen, awdur a chynhyrchydd y rhaglen deledu, yn gyffrous iawn am y prosiect, ac wrth ei bodd o gael y cyfle i gydweithio â Nest Llwyd Owen, gan fod y ddwy yn ffrindiau bore oes. Roedd y ddwy yn byw ym mhocedi'i gilydd am flynyddoedd, gyda’r ddwy yn mynychu Ysgol Llandwrog, sydd hefyd erbyn hyn yn lleoliad ffilmio’r gyfres Deian a Loli. Mae’r plentyndod a chyfeillgarwch yma wedi troi’n ysbrydoliaeth i Angharad:

"Roedd pobol yn aml iawn yn meddwl ein bod ni'n efeilliaid. Mae o fel tasa 'na ryw ffawd ar waith fod y cyfle yma wedi dod inni gydweithio ar y llyfr yma efo'n gilydd a dwi'n hynod falch o'r gwaith bendigedig mae Nest wedi ei wneud i ddod a'r cymeriadau a'r sefyllfaoedd yn fyw."

 

Mae Nest yn ail-adrodd hyn a phwysleisio’r plentyndod braf:

 

“Fe dreulion ni'n plentyndod yn Llandwrog yn dringo coed a chwarae tu allan drwy'r dydd – yn debyg iawn i Deian a Loli. Mae hi wedi bod yn bleser gweithio ar y llyfr yma efo Angharad. ‘Da ni wedi bod isio gwneud llyfr efo'n gilydd ers blynyddoedd, felly mi oedd hwn yn gyfle perffaith inni gydweithio."

 

Cafwyd ysbrydoliaeth pellach wrth Gwenno Hywyn, oedd yn byw yn y pentref ac yn eu hannog i ysgrifennu, ac mae Angharad yn dweud fod ei dylanwad “yn gryf ar Deial a Loli, ac arna i fel awdur”.


Lansiwyd Deian a Loli yng Nghastell Caernarfon ar ddydd Sadwrn 14eg o Orffennaf yn rhan o Ŵyl Arall.


Angharad Elen yw awdur y llyfrau, yn ogystal â chynhyrchydd y rhaglenni teledu, sydd â ffigurau gwylio uchel iawn: cyfartaledd o 4,505 fesul pennod.

Daw Nest o Landwrog yn wreiddiol ac mae hi a’r awdur yn ffrindiau bore oes. Astudiodd Gelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n fam i Jac, sy’n flwydd oed.