Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ffordd wych o edrych ymlaen at y Chwe Gwlad

Mae Brenin y Cwis yn ôl gyda llyfr cwis newydd sbon sy’n llawn o hanes y 22 mlynedd diwethaf o gystadleuaeth y Chwe Gwlad. Dyma ffordd hwyliog o wahaniaethu rhwng y ffyddloniaid a’r cefnogwyr ‘fair weather’!

Mae Matthew Jones yn awdur nifer o lyfrau cwis poblogaidd gan gynnwys The Welsh Rugby Quiz Book a The Wales Quiz Book. Yr wythnos hon mae The Six Nations Rugby Quiz Book yn cael ei gyhoeddi, sy’n ffordd wych o baratoi at gystadleuaeth y Chwe Gwlad eleni.

Mae The Six Nations Rugby Quiz Book yn cynnwys pumdeg rownd o ddeg cwestiwn sydd o lefelau anhawster amrywiol, ac yn cynnwys cwestiynau fydd yn mynd yn ôl i’r flwyddyn 2000 – sef y flwyddyn ymunodd yr Eidal â’r gystadleuaeth. O’r trechiadau ysgytwol i’r Grand Slams, o’r chwaraewyr profiadol i rheiny enillodd un cap dros ei gwlad, mae’r twrnament yn addo cyffro bob blwyddyn. 

“Mae hi wedi bod yn anodd cynnwys popeth am gystadleuaeth y Chwe Gwlad ers 2000 i 500 o gwestiynau, ond bydd The Six Nations Rugby Quiz Book yn sicr yn datgelu pwy yw’r cefnogwyr obsesiynol! Mae pobl wastad wedi mwynhau cwis da, fel y daeth i’r amlwg yn ystod y cyfnodau clo yn ôl yn 2020! Gobeithio y bydd modd cynnal cwisiau wyneb yn wyneb eto’n fuan,” meddai’r awdur Matthew Jones.