Ffermio ar y Dibyn
Yn Ffermio ar y Dibyn, mae Meinir yn rhannu straeon personol o dyfu i fyny ar ei fferm deuluol ger Llandeilo, o fod yn aelod o fudiad y Ffermwyr Ifanc i fod yn gyflwynwraig, yn wraig ac yn fam. Ond mae hefyd yn mynd o dan groen y realiti sy'n wynebu ffermwyr heddiw, gan daflu goleuni ar yr heriau a’r newidiadau sylweddol sydd wedi digwydd yn y sector ffermio dros y blynyddoedd.
“Dwi'n gobeithio bydd pobl yn
darllen y llyfr, yn gwerthfawrogi ymroddiad a dygnwch ffermwr wrth sicrhau
cyflenwad o fwyd safonol ar y plât yn ddyddiol, ond hefyd yn cael taith nôl
mewn amser wrth gofio am arferion ffermio a'r gymuned wledig yn ystod fy mhlentyndod,”
meddai Meinir.
Mae’r
llyfr hefyd yn datgelu’r heriau personol y mae Meinir wedi’u hwynebu wrth
gydbwyso bywyd teuluol gyda’i gwaith fel cyflwynydd ac aelod o’r gymuned. “Dwi'n gobeithio y bydd pobl yn medru
uniaethu â’r heriau dwi'n eu trafod — o orfod jyglo gwahanol brosiectau gyda
bywyd bob dydd. Dyw bywyd BYTH
yn berffaith a bydd e byth chwaith. Faint ohonom ni sy'n teimlo'n euog am
bethau sydd tu hwnt i'n gallu ni i newid? Faint ohonom ni sydd wedi methu cael
y plant i'r gwely erbyn amser call? Neu wedi methu parti neu ddigwyddiad?
Peidiwch bod yn galed ar eich hunain, does neb yn berffaith!” meddai.
Yn
ogystal â stori Meinir, mae’r hunangofiant yn cynnwys rhagair arbennig gan y
dyfarnwr rygbi, Nigel Owens lle mae’n canmol holl rinweddau, a chyfraniad
helaeth Meinir i’r byd amaeth dros y blynyddoedd. Yn y rhagair, mae Nigel yn
dweud: “Mae Meinir Howells yn enghraifft o sut all merch lwyddo mewn byd macho,
gwrywaidd iawn, rhywbeth rwy’n ei edmygu’n fawr ynddi. Mae hyn yn dangos rhyw
nerth cymeriad anhygoel, yn fy marn i. Mae’n esiampl, nid yn unig i ferched
Cymru, ond i bawb.”
Wrth gynnig darlun gonest a gafaelgar o’r
heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu ffermwyr heddiw, mae Ffermio ar y Dibyn yn sicr o ysbrydoli a chyffroi darllenwyr o bob
cefndir. "Dwi'n
gobeithio y bydd y llyfr yn apelio at ystod eang o bobl wrth imi sôn am fy
mhlentyndod, fy amser gyda'r CFfI, fy ngwaith gyda'r cyfryngau, fy rôl fel
ffermwraig a'm swydd bwysicaf fel Mam," meddai Meinir.
Ychwanegodd,
"Mae'n deimlad swreal iawn, a
dwi'n nerfus tu hwnt! Mae llu o bethau dwi wedi methu rhoi yn y llyfr —
oherwydd byddai fe LOT rhy hir. Blas yw'r llyfr o'r daith hyd yn hyn. Mae tîm
Lolfa ac Andrew Teilo wedi bod yn graig o nerth yn ystod y cyfnod, a dwi'n
ddiolchgar iawn iddyn nhw am eu hamynedd. Heb anghofio'r ysbrydoliaeth fwyaf,
Gary, Sioned a Dafydd."
Bydd
lansiad swyddogol Ffermio ar y Dibyn, Nos Wener yr 8fed o Dachwedd am
7yh ar y fferm deuluol, Shadog ger Llandysul. Mae Meinir, Gary a'i theulu yn
edrych ymlaen yn arw at ddathlu'r achlysur arbennig hwn ac i groesawu pawb yno
i ymuno â hwy ar y noson.
Mae Ffermio ar y Dibyn gan Meinir Howells yn cael ei gyhoeddi 30
Hydref (£11.99, Y Lolfa).
Nodiadau
Mae Meinir Howells yn gyflwynydd teledu ac yn ffigwr adnabyddus yn y
byd amaeth. Magwyd Meinir ar fferm ei rhieni ger Llandeilo. Roedd yn aelod
gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanfynydd ac mae hi wedi ennill gwobrau am ei
gwasanaeth i’r byd amaethyddol. Mae ganddi gysylltiadau lu fel cyflwynydd a
chyfarwyddwr teledu. Mae Meinir bellach yn ffermio yn Shadog, ger Llandysul,
gyda’i gŵr Gary a’u plant, Sioned a Dafydd. Mae ganddyn nhw tua 450 erw a 600 o
ddefaid, yn ogystal â 200 o wartheg ac yn cynhyrchu 150 o hyrddod blwydd i’w
gwerthu. Yn wythnosol mae hi’n cyflwyno straeon am fyd amaeth yng Nghymru a thu
hwnt ar y gyfres Ffermio ar S4C. Mae hi hefyd wedi cyflwyno a chyfarwyddo
rhaglenni y Sioe Fawr ar y BBC ac S4C. Oddi ar y sgrin, mae hi’n treulio ei
hamser gyda’i theulu ifanc yn gofalu am y defaid a’r gwartheg ar fferm brysur y
teulu ger Llandysul.
Brodor o Landeilo, Sir Gâr yw Andrew Teilo, ac yno mae'n byw o hyd. Mae’n actor ac yn awdur ac yn wyneb cyfarwydd. Cafodd ei gyfrol gyntaf, Pryfed Undydd, ganmoliaeth uchel. Y mae wedi llenydda erioed, er nad yn gyhoeddus, ac eithrio cyfrannu erthyglau bob hyn a hyn i bapurau a chylchgronau Cymraeg a Chymreig. Yn 2022 enillodd radd MA mewn Ysgrifennu Creadigol tra'n astudio yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.