Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ffeindio sens pan sgen ti'm syniad

Y mis hwn, cyhoeddir Sgen i’m Syniad – Snogs, Sens, Sens (Y Lolfa) gan awdur newydd sbon, Gwenllian Ellis.

Mae Sgen i’m Syniad yn llyfr gonest sy’n tynnu ar brofiadau personol ac yn dweud gwirioneddau am y gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi heddiw. Yng ngeiriau’r awdur: ‘Dyma lyfr i unrhyw berson sydd erioed wedi cael ei alw yn “ormod”, yn “warthus” neu’n “wirion”’. 

Yma, trafodir ffrindiau, teulu, teimlo fel dy fod di’n cael dy adael ar ôl, snogio, secs, Spar Pwllheli, bwyd, teithio, gweithio, hogia, nosweithiau meddw, fails detio, fails cyffredinol bywyd, gwahanol hairstyles, cywilydd a pherthynas rhywun â chywilydd, bod yn ormod ond ddim yn ddigon ar yr un pryd, y gwersi ti’n eu dysgu ar y ffordd a’r bobl sy’n dy gario di pan dwyt ti ddim hyd yn oed yn gwybod dy fod di angen cael dy gario.

Meddai Gwenllian Ellis: ‘Mae hi’n bwysig ein bod yn clywed straeon merched mewn llenyddiaeth Gymraeg – y rhai blêr, y rhai anodd, y rhai sy’n codi cywilydd – a dyma fy fersiwn i o stori lot fawr o ferched yn tyfu fyny ac yn dod i adnabod eu hunain. Dyma’r llyfr fyswn i wedi licio’i ddarllen pan o’n i’n iau i ‘ ngwneud i deimlo ’chydig bach llai unig.’


Daw Gwenllian Ellis yn wreiddiol o Bwllheli ond mae bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain. Mae wedi cydweithio ar brosiectau sgwennu gyda Frân Wen a Hansh. Ers 2018, mae ganddi golofn dan yr enw ‘Ledi G’ yng nghylchgrawn Cara.

Yr artist Elin Lisabeth yw dylunydd y clawr a’r dyluniadau amrywiol oddi fewn i’r gyfrol. Daw Elin yn wreiddiol o Ben Llŷn, ond bellach mae’n byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd. Graddiodd o Brifysgol Bryste gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Darlunio. Ers hynny, mae wedi cael cyfle i arddangos ei gwaith yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw a’r Lle Celf yn yr Eisteddfod Genedlaethol.