'Escape Room' yn ysbrydoli nofel i'r arddegau gan Anni Llŷn
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel newydd gan Anni Llŷn i’r arddegau cynnar, sef Asiant A: Her LL. Mae’r nofel am Alys Phillips, sy’n 14 oed ac yn ysbïwraig ar dasgau cudd. Mae Anni Llŷn erbyn hyn wedi ysgrifennu nifer o nofelau i’r arddegau ac yn datblygu fel awdures boblogaidd i blant o bob oedran, yn ogystal â’i gwaith fel bardd a chyflwynydd teledu.
Mae Asiant A: Her LL yn ddilyniant i’r nofel wreiddiol Asiant A (rhan o gyfres Pen Dafad) a ddaliodd ddychymyg pobl ifanc Cymru ac sydd wedi bod yn boblogaidd tu hwnt ers ei gyhoeddiad cyntaf yn 2014, ac wedi cael ei ailargraffu yn y cyfamser.
“Cafodd y nofel yma’n benodol ei hysbrydoli gan brofiadau go iawn fel yr Escape Rooms sydd wedi ymddangos mewn sawl dinas erbyn hyn,” meddai Anni Llŷn.
Gêm anturus a chorfforol a geir yn yr Escape Room ac mae angen i chwaraewyr ddatrys cyfres o broblemau a phosau gan ddefnyddio cliwiau a strategaeth i gwblhau’r nod o fewn amser cyfyngedig. Mae’u themâu yn debyg iawn i’r sioe deledu boblogaidd o’r 1990au cynnar, The Crystal Maze, a atgyfodwyd yn ddiweddar.
Mae Alys yn gymeriad cryf a chraff wrth i ni ddilyn ei hantur droellog. Meddai’r awdures:
“Cymeriad hoffus, dewr a chryf ro’n i am greu felly roedd yn naturiol i mi ddewis merch gan ’mod i’n adnabod cymaint o ferched fel Alys.”
Mae Alys yn ôl i ddatrys tasg arall – Her Ll – wrth iddi geisio darganfod pwy neu beth yn union sydd y tu ôl i agor y gwersyll arbennig sydd yn cynnal cystadleuaeth amheus i 10 o bobl ifanc sydd wedi gorfod ateb cliwiau dyrys, cudd ac ennill eu lle yn y gystadleuaeth. Mae criw o ladron cynllwyngar, sydd wedi bod ar ffo, yn ôl yn y wlad ac wrth i Alys gael gorchymyn i gystadlu, mae’n dod i sylweddoli ei bod hithau hefyd yn rhan o ladrad cyfrwys.
Meddai’r awdur, “Pan o’n i’n fach roedden ni’n darllen ar y cyd, Mam yn adrodd i fi, fy chwiorydd a fy mrawd. Straeon antur rhan fwyaf, llyfrau T. Llew Jones a’r Mabinogi. Dwi’n mwynhau tensiwn a dirgelwch ynglŷn â phobl a sefyllfaoedd – mae posib cael hyn mewn pob math o straeon.”