Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dysgwyr Cymraeg yn cael help llaw gyda phrosiect sy'n gweld pedwar o weisg Cymru yn cyd-weithio

Mae’r Lolfa yn falch iawn o fod yn rhan o’r prosiect Llyfrau Amdani, sef prosiect cyhoeddi cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg. Mae’r pecyn cyntaf yn cael ei gyhoeddi'r wythnos yma.


Mae’r prosiect Llyfrau Amdani yn gweld pedwar o weisg Cymru, Y Lolfa, Atebol, CAA a Gwasg Gomer, yn cydweithio i ddatblygu a chynhyrchu cyfres o lyfrau ar y cyd gyda Chanolfan Cenedlaethol Dysgu Cymraeg a Chyngor Llyfrau Cymru.


Ceir 6 nofel yn y pecyn cyntaf. Mae’r nofelau wedi’u graddoli ar lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch a bydd y gyfres yn cyd-fynd gyda chyflwyniad cyrsiau newydd Cymraeg i Oedolion o fis Medi 2018 ymlaen.


Mae Meinir Wyn Edwards o’r Lolfa wedi addasu nofel Margaret Johnson Big Hair Day o’r Saesneg. Mae Am Ddiwrnod! yn adrodd stori Sophia Reynolds, sy’n cael gwaith fel ecstra mewn ffilm gyda Fabio Facelli, yr actor enwog. Ond dyw Sophia ddim yn cael diwrnod da! Mae’r nofel yn addas at ddysgwyr ar Lefel Mynediad, gyda geirfa a llun ar bob tudalen i helpu dysgwyr ar eu taith i ddysgu Cymraeg ac i ddechrau darllen yn y Gymraeg.


‘Roedd addasu’r nofel fer yma yn her, ond yn waith pleserus hefyd. Dwi wedi bod yn addasu llyfrau i blant ers blynyddoedd ond roedd hyn yn llawer mwy anodd, yn bennaf oherwydd bod yr eirfa a’r patrymau iaith – hyd at Uned 8 Lefel Mynediad – mor gyfyng. Ond mae hefyd wedi bod yn fraint cael cyfrannu i’r prosiect pwysig yma. Er mwyn datblygu hyder wrth ddysgu unrhyw iaith mae’n bwysig cael llyfrau ysgafn i ddarllen er mwyn pleser yn yr iaith honno,’ meddai Meinir Wyn Edwards.


‘Rydym yn hapus iawn bod y llyfrau yma yn cael eu cynnig ar lefelau graddoledig – bydd hyn yn sicr yn helpu cynyddu hyder ymysg y dysgwyr,’ meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwraig Canolfan Cenedlaethol Dysgu Cymraeg.


Bydd y gyfres hon yn llenwi’r blwch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes.


Bydd pedwar teitl pellach yn cael eu cyhoeddi mis Mai 2018, gydag ehangiad arall i’r gyfres erbyn mis Hydref 2018. Y llyfr nesaf yn y gyfres bydd cofiant y bardd, arlunydd a chyflwynydd Siôn Tomos Owen Y Fawr a’r Fach: Straeon o’r Rhondda.