Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dylid ‘codi carreg i gofio Niclas y Glais’

Mae’r awdur a’r newyddiadurwr Hefin Wyn wedi galw am garreg i gofio Niclas y Glais, y Comiwnydd a’r Cristion o ardal y Preseli.

‘Mae angen gneud mwy i’w gofio’ meddai Hefin Wyn, ‘Yn ddiweddar codwyd carreg goffa i Myfyr Emlyn ym mynwent Capel Bethabara. Mae traddodiad o feini coffa yn y Preselau ond dim hyd yn hyn i gofio am Niclas.’

Mae Hefin yn credu y dylid codi carreg ar ben Crugiau Dwy.

Daw’r galw yn sgil cyhoeddi ei gofiant ar Niclas y Glais, Ar Drywydd Niclas y Glais, a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg Y Lolfa. Dyma’r cofiant cyflawn cyntaf i Niclas y Glais, (T. E. Nicholas, 1879-1971) ac mae’n cynnwys gwybodaeth newydd na gyhoeddwyd o’r blaen sy’n seiliedig ar lythyrau personol sydd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol ac ar dystiolaeth nifer o ddisgynyddion Niclas ei hun.

Brodor o’r Preselau oedd T. E. Nicholas ond daeth i amlygrwydd yn ystod ei ddeng mlynedd o weinidogaeth ym mhentre’r Glais, Cwm Tawe. Roedd yn gyfaill i Keir Hardie, a Niclas draddododd ei bregeth angladdol yn Siloam, Aberdâr a chynnig am ei sedd seneddol adeg y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe’i carcharwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd a thra oedd yn rhannu cell gyda’i fab Islwyn, yng ngharchardai Abertawe a Brixton, aildaniwyd ei yrfa farddonol.

‘Roedd yn gomiwnydd diedifar a byddai’n dannod y frenhiniaeth a chyfalafiaeth bob gafael’ meddai Hefin Wyn, ‘Roedd hefyd yn ddarlithydd ac yn ddeintydd. O gyfuno’r elfennau hyn ffurfiwyd colsyn eirias o gymeriad a anwylodd ei hun i’r genedl.’

‘Gwerthusiad amserol a phwysig yw hwn o Niclas y Glais’ meddai Deian Hopkin, ‘Eglura Hefin Wyn y ddolen gydiol rhwng crefydd, sosialaeth a heddychiaeth yn athroniaeth Niclas. Cyfraniad sylweddol at ddeall y dyn a’i etifeddiaeth yn ein hoes ddryslyd.’

Brodor o ardal Crymych, Sir Benfro, yw Hefin Wyn. Ef oedd gohebydd adloniant Y Cymro yn y 70au. Mae bellach yn newyddiadurwr ar ei liwt ei hun ac yn byw gyda'i deulu ym mhentre Mot ger Maenclochog. Gyda chyhoeddi’r gyfrol mae HefinWyn yn cwblhau trioleg am wŷr mawr Sir Benfro – yn dilyn ei gofiannau i Waldo Williams ac i Meic Stevens.

Mae’n cyflwyno’r gyfrol i ‘ysbryd rhydd y Preseli’.

Bydd y gyfrol yn cael ei lansio ar yr 8fed o Ragfyr am 6.30yh yn Nhŷ’r Gwrhyd ym Mhontardawe yng nghwmni Hefin Wyn, yr Athro Prys Morgan, Dr Hywel Francis, David Howell a’r Parch Ivor Rees, Côr Cochion Caerdydd a gair gan Deian Hopkin.
 
Bydd noson lansio arall i ddilyn wedyn am 7.30yh nos Sadwrn 9 Rhagfyr yng Nghanolfan Hermon, Crymych yng nghwmni Hefin Wyn ac Emyr Llywelyn trwy gydweithrediad Cymdeithas Treftadaeth Hermon a’r Cylch.