Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

‘Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn o’r blaen’ – Y Mabinogi yn Ysbrydoli Awdur Newydd

‘Dwyt ti erioed wedi darllen dim byd fel hwn o’r blaen’. Dyma eiriau ar froliant Pumed Gainc y Mabinogi, cyfrol gyntaf Peredur Glyn a gyhoeddir y mis hwn gan wasg y Lolfa. Ynddi ceir straeon arswyd sydd wedi eu gosod yng Nghymru heddiw ond sydd wedi cael eu hysbrydoli gan ddrychiolaethau chwedloniaeth y gorffennol.

Meddai Peredur: ‘Mae chwedloniaeth Cymru yn orlawn o gymeriadau lliwgar a hanesion arallfydol a phethau arswydus ac anesboniadwy sydd yn drysorfa i awdur sydd eisiau dychryn darllenydd!’

Mae’r straeon hyn yn disgrifio profiadau gwahanol unigolion anffodus o fyd sydd yn debyg iawn i’r byd hwn ond lle bo grymoedd brawychus yn gweithredu’n ddirgel yn ddiarwybod i lawer. Bydd darllenydd craff a diwyd yn gallu casglu cliwiau wrth ddarllen, yn gweld cysylltiadau rhwng gwahanol straeon, yn ymchwil i arwyddocâd enwau a theitlau – a bydd rhai pethau sydd yn annelwig tua dechrau’r llyfr yn dod yn fwy eglur, efallai, yn hwyrach ymlaen neu wrth ailddarllen. 

Yng ngeiriau Miriam Elin Jones: ‘Dyma gyfrol wefreiddiol o straeon sydd ag adleisiau tywyll ein chwedlau coll. Roeddwn i wedi gwirioni!’

Felly anghofiwch beth rydych chi’n ei gredu sy’n wir. Rhiannon, Gwydion, Mathonwy – oeddech chi’n meddwl mai dim ond chwedlau ydyn nhw? Mae’r ‘Llyfr Glas’ wedi cael ei ailddarganfod... mae creaduriaid amhosib yn ymgasglu yn y cysgodion ac mae grymoedd sydd tu hwnt i’ch dealltwriaeth yn ymestyn eu crafangau er mwyn rhwygo’ch realiti yn ddarnau... Darn wrth ddarn, efallai y gallwch chi ddarganfod beth ydy’r Bumed Gainc a pham ei bod mor beryglus – a datrys cyfrinachau eraill.