Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Drygioni Nel yn ôl, â thair stori arall!

Ar ôl prysurdeb a chyffro 12 mis diwethaf, gyda chwmni Arad Goch yn teithio sioe theatr Na, Nel! o gwmpas Cymru i dros 17 o leoliadau yn ystod haf 2018, cyhoeddi llyfr creu i danio’r dychymyg, a llyfr stori i ddathlu Diwrnod y Llyfr –  y llyfr cyntaf yn y Gymraeg, mae Nel ’nôl! Mae Na, Nel! Help! (Y Lolfa) yn ein cyflwyno i dair stori arall am y ferch annwyl ond direidus!

 

“ Mae cnewyllyn y storïau yn dod o fywyd go iawn. Mae gen i ddwy o ferched fy hun a dwi’n treulio llawer o amser gyda phlant ffrindiau a theulu hefyd, yn ogystal â’r plant sydd yn mynychu sesiynau Na, Nel! mewn gwyliau ac ysgolion niferus. Maen nhw’n llawn syniadau a bob amser yn gwneud i fi chwerthin! Rwy’n cael lot o sbort yn ysgrifennu straeon Na, Nel! a gadael i fy nychymyg dyfalu beth fyddai Nel yn ei wneud nesaf!” meddai Meleri Wyn James.

 

Mae’r llyfr diweddaraf yng nghyfres Na, Nel! yn dilyn Nel a’i ffrindiau a’i chath Mister Fflwff. Fel o’r blaen, mae yma dair stori wedi eu rhannu’n benodau er mwyn gwneud nhw’n haws i’w darllen, a lluniau deniadol du a gwyn gan John Lund.

 

“Mae gan Nel ddychymyg gwyllt a does arni ddim ofn ei ddefnyddio. Y tro hwn mae draig yn cipio llais Nel ac mae’n mynd ar antur gyffrous i’w gael yn ôl. Yn yr ail stori mae’n gorfod ymdopi â sefyllfa newydd pan mae’n ffeindio bod gan un o’i ffrindiau gorau ffrind newydd arbennig iawn. Yn y stori olaf mae’n gobeithio dod yn seren y dyfodol pan mae’n mynd â Mister Fflwff at y fet er mwyn trio bod ar y gyfres realiti, Fetia i! ar S4C.”

 

“Fe ddechreuais i ysgrifennu llyfrau Na, Nel! yn wreiddiol i fy merched fy hun am fod yna fwlch yn y farchnad ar gyfer llyfrau gwreiddiol i blant rhwng 5 ac 8 mlwydd oed. Mae Nel yn Gymraes ac mae’r llyfrau’n cyflwyno hanes, traddodiadau, chwedlau a chaneuon Cymru i blant – yn ogystal â bod yn lot o hwyl gobeithio! Roedd hi’n fenter cyhoeddi’r llyfr cyntaf, achos doedden ni ddim yn gwybod beth fyddai’r ymateb. Ond roedden ni’n lwcus, fe werthodd y llyfrau cyntaf i gyd yn sydyn ac fe wnaeth y Lolfa ailargraffu ar ôl pum wythnos,” meddai’r awdures. 

 

“Rwy’n gobeithio ysgrifennu mwy o lyfrau Na, Nel! Fy nod wrth ysgrifennu a mynd i wyliau ac ysgolion yw annog plant i ddarllen ac i ysgrifennu. Ar y funud rwy’n ysgrifennu nofel ddirgelwch i bobl ifanc wedi’i lleoli yng Nghors Caron ac fe fydd yn cael ei chyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2020 yn Nhregaron.”