Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Drama heriol newydd ar gyfer Lefel A

Mae Hwb yn ddrama wreiddiol gyfoes i bobl ifanc gan Rhian Staples, athrawes brofiadol â llwyddiant arbennig mewn canlyniadau arholiadau Drama Lefel A ac enillydd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 2011. Fe’i chyhoeddir gan Y Lolfa ac fe ariannir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’i rhaglen gomisiynu adnoddau addysgu a dysgu Cymraeg a dwyieithog. Bydd yna pecyn adnoddau yn cyd-fynd â’r ddrama, gyda gweithgareddau perthnasol i helpu athrawon ac i herio myfyrwyr.

 

Wedi ei lleoli yn Ne Cymru heddiw, mae Hwb yn archwilio’r pwysau sydd ar bobl ifanc yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn ystod ei chyfnod fel actor treuliodd Rhian Staples amser yn Bosnia, lle bu’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc a gafodd eu creithio gan erchyllterau rhyfel. Y profiadau hyn a’i hysbrydolodd i greu’r ddrama bwerus hon.

 

O effaith cam-drin yn y cartref ar berson ifanc, i fyw gydag alcoholiaeth mam tra’n cadw’r pethau hyn yn gudd, mae’r ddrama’n trafod themâu dwys ac yn herio’r gynulleidfa i ymateb. Trwy wneud hyn, mae’n archwilio sut mae cymdeithas yn gweld pethau erchyll yn digwydd heb ymyrryd, ac yn plethu sawl elfen theatrig gan gynnwys Theatr Brecht, Theatr Dlawd, Sinema 4D ac arddull actio Realaeth Fodern.

 

Mewn golygfa gychwynnol bwerus gwelir sut mae’r cyffredin a’r eithafol yn plethu ym mywydau’r ifanc. Er gwaetha’r trais mae’n dioddef gartref, prif gonsýrn Lowri yw sicrhau ei bod yn cael gradd ‘A’ am ei gwaith cwrs Saesneg. Ond mae Callum yn adrodd celwydd am ‘farwolaeth’ ei rieni ar yr A470, yn hytrach na chyfaddef y gwir am alcoholiaeth ei fam. Fwyfwy fe welwn yr ifanc yn ein cymdeithas yn creu rhith o boen am fod wynebu’r poen go iawn yn rhy anodd.

 

“Wedi bron i dri deg mlynedd o weithio gyda phobl ifanc ro’n i am greu drama oedd yn esgor ar drafodaeth am eu byd a’r pwyslais cynyddol sydd arnynt i lwyddo – mae’n anodd bod yn ifanc heddiw,” meddai Rhian Staples, Pennaeth Yr Adran Gelfyddydau Mynegiannol yn Ysgol Gyfun Rhydywaun.

 

“Prif fwriad y ddrama yw i gwestiynu beth yw bod yn ifanc a beth yw rhan cymdeithas (y gynulleidfa) yn y fordaith gymhleth trwy’r arddegau. Mae’r defnydd o fetaddrama a siarad uniongyrchol gyda’r gynulleidfa yn fodd o greu trafodaeth fyw ynglŷn â sut mae cymdeithas yn caledu: sut y gallwn wylio pethau erchyll yn digwydd heb ymyrryd.”