Diweddglo "tanllyd" i'r "drioleg drosedd orau yn yr iaith Gymraeg"
Disgrifiwyd trioleg drosedd Alun Davies fel “y drioleg orau i fi ddarllen yn yr iaith Gymraeg” gan yr awdur arobryn a’r plot-feistr Llwyd Owen.
Yr wythnos hon cyhoeddir nofel olaf y drioleg, sef Ar Daith Olaf (Y Lolfa) gan ddilyn y nofelau hynod boblogaidd Ar Drywydd Llofrudd ac Ar Lwybr Dial gan ddod â’r drioleg afaelgar a thywyll hon i ben. Mae’r arddull yn adleisio storïau dirgelwch a chyfresi teledu Scandi ac fel y ddwy nofel gyntaf, mae yna ddirgelwch i’w ddatrys yn ardal Aberystwyth.
Meddai’r awdur
Alun Davies:
“Mae dros bum mlynedd bellach ers i mi ddechrau ar y nofel gyntaf, Ar Drywydd Llofrudd, ac roedd yn rhyfedd i feddwl wrth ysgrifennu Ar Daith Olaf na fydden i’n gweld y byd drwy lygaid y ditectif Taliesin MacLeavy eto. Mae’r adborth dwi wedi ei dderbyn am y ddwy nofel gyntaf wedi bod yn anhygoel, yn enwedig y ffordd mae’r darllenwyr wedi cymryd at gymeriad Taliesin, felly mi oedd yna gryn bwysau i orffen ei stori e’n iawn. Er bod y stori ei hun wedi ei chynllunio o flaen llaw, roeddwn i mewn dau feddwl ynglŷn â diweddglo'r nofel, ac fe wnes i ysgrifennu dau set wahanol o benodau olaf cyn penderfynu pa un i’w ddefnyddio.”
Am y nofel, dywed
Alun:
“Ma gyda’r llyfr yma'r holl elfennau hanfodol y gyfres – llofruddiaethau, ambell i dro annisgwyl, a Taliesin yn brwydro i ddatrys y ddirgelwch am y tro olaf.”
Yn Ar Daith Olaf mae Taliesin MacLeavy wedi ei orfodi i ymddeol fel ditectif oherwydd atgofion hunllefus hen achosion. Ond pan mae e’n dechrau cyfrannu i bodlediad am droseddau gwir mae linc yn cyrraedd am lofruddiaeth go iawn. Ond pwy yw’r llofrudd a pham mae’n edrych i’r gorffennol?
Canmoliaeth Ar
Lwybr Dial:
“Nofel sy’n werth colli cwsg drosti” – Richard Harrington (Ditectif Mathias yn nghyfres Y Gwyll ar S4C (ac Hinterland ar y BBC)
Am ddyfodol heb Taliesin MacLeavy, meddai Alun Davies:
“Ar hyn o bryd
rwy’n ysgrifennu nofel ar gyfer oedolion ifanc sydd yn dod â’r Mabinogi i’r byd
cyfoes. Mae’n dilyn arwr newydd, bachgen o’r enw Manawydan Jones, sy’n cael ei
dynnu i frwydr rhwng y goleuni a’r tywyllwch – ddim cweit mor waedlyd â llyfrau
Taliesin ond gyda digon o gyffro ac antur! Yn bellach i’r dyfodol, dydw i ddim
yn meddwl byddwn ni’n clywed gan Taliesin eto, ond efallai nad yw’r enw
MacLeavy wedi diflannu am byth…!