Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Ditectif benywaidd yn cael y lle blaenaf mewn nofel gan gyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn

Mae nofelau ditectif wedi dod yn gynyddol boblogaidd yn y Gymraeg yn ddiweddar, gyda nifer o gyfresi llwyddiannu gan awduron fel Alun Davies ac John Alwyn Griffiths yn llwyddo. Dynion sydd wedi bod amlycaf yn y cyfresi yma, ond mewn llyfr newydd gan yr awdur amryddawn Jon Gower, Y Dial, mae’r ditectif Emma Freeman yn cael y lle blaenaf. Partner i Tom Tom yw Emma, oedd yn ymwneud ag achos tywyll yn nofel ddiwethaf Jon Gower o’r enw Y Düwch a gyhoeddwyd yn 2018.

Meddai Jon Gower:

“Daeth Emma Freeman yn fyw i mi fel cymeriad wrth lunio Y Düwch – mae’r ffaith ei bod yn glyfar ac yn gryf yn rhan o’i hapêl. Yn hyn o beth mae’n wahanol iawn i’w phartner Tom Tom, sy’n dibynnu ar reddf ac yn llawn gwendidau, gan gynnwys alcohol. Camodd Emma ymlaen yn naturiol i hawlio’r llyfr – ond, heb sbwylio pethau, mae llofrudd Y Dial yn cael lot fawr o sylw hefyd!”

Mae’r nofel yma yn symud o rust belt Cymru, sef cefnlen y nofel flaenorol, i Gaerdydd, wrth i’r heddlu sefydlu pencadlys newydd yno. Mae Emma Freeman yn ymchwilio i ddiflaniad a marwolaeth ei gŵr oedd yn blisman, cyn iddo gael ei ddienyddio’n fyw ar y rhyngrwyd. Ond hefyd mae gan y ddau dditectif lofrudd i’w ddal. Pan mae asasin proffesiynol yn llwyddo i ddal Tom Tom, a’i gaethiwo, rhaid i Freeman ddatrys dau bos enfawr gydag amser yn brin, a’i chariad tuag at Tom Tom yn dod yn fwyfwy amlwg gyda phob eiliad.

Cafodd Y Düwch ymateb ardderchog gan y beirniaid, ac mae Y Dial eto yn llwyddo i bleisio wrth fynd a’r darllenydd i is-fyd tywyll tu hwnt.

Meddai Andy Bell am Y Dial:

“O’r bennod drawiadol gyntaf mae hon yn stori igam-ogam o afaelgar. Nofel noir ar y naw gyda sefyllfaoedd sy’n hunllefus neu’n llawn hiwmor – y ddau weithiau ar yr un pryd!”

Mae’r gyfres yn un dywyll, dreisgar, gyda’r stori’n symud yn gyflym. Mae Jon Gower yn ffan o nofelau tebyg yn y Saesneg, yn enwedig awduron Americanaidd megis James Ellroy a James Lee Burke.

“Mae Y Dial yn dywyllach o lawer na’r nofel gyntaf. Weithiau dwi’n poeni ’mod i’r math o berson sy’n medru camu i’r tywyllwch mor hawdd i chwilio am ddeunydd. Pan oeddwn i yn y Babell Lên yn Eisteddfod Caerdydd, cwrddais â menyw ifanc oedd wedi darllen Y Düwch. Ymddiheurais am y ffaith ei fod mor dywyll a derbyn ateb nad oedd y llyfr yn ddigon tywyll yn ei barn hi. Felly, os dwi wedi mynd yn rhy bell y tro ’ma, dwi’n rhoi’r bai arni hi!”

Bu canmol i’r nofel gyntaf, Y Düwch gyda Meg Elis yn ei disgrifio fel:

“Nofel dditectif sy’n treiddio’n ddifyr i seicoleg y prif gymeriadau wrth bortreadu un darn bach o Gymru yn feistraidd o ddeheuig.”

Bydd y drydedd nofel, a’r olaf yn y drioleg, Y Diwedd, yn cael ei chyhoeddi yn 2022.