Dirgelwch Allwedd Amser yn dyfnhau
Anturiaethau Nefyn a Trefor a dirgelwch yr allwedd hud sydd yn hawlio sylw rhifyn newydd Mellten wrth iddynt fynd ar daith i lefydd anhygoel a dyfnderoedd tywyll dinas od iawn ar drywydd allwedd amser. A fydd y ddau yn gallu dianc rhag y bwystfilod dirgel sydd ar eu holau?
Dyma'r pedwerydd rhifyn o'r comic newydd chwarterol poblogaidd i blant Cymru, Mellten.
Crewyd comic Allwedd Amser gan y cartwnydd Ben Hillman.
'Des i ar draws gwaith Ben yn gyntaf mewn sioe graddedigion Prifysgol Metropolitan Caerdydd, ac o'n i wrth fy modd gyda'i arddull paentiadol, manwl,' eglurodd y cartwnydd a golygydd Mellten, Huw Aaron. 'Mae hefyd ganddo fe ddychymyg byw, ac mae e wedi creu stori cyffrous sy'n llawn dirgelwch a hiwmor, am y ddau ffrind sy'n agor drysau dyle neb BYTH eu hagor!'
Wedi ei anelu at blant rhwng 7 ac 13 oed yn bennaf, dyma'r comic Cymraeg gwreiddiol cyntaf i'w gyhoeddi ers degawdau. Wedi ei olygu gan un o gartwnwyr gorau a mwyaf gwreiddiol Cymru, Huw Aaron, mae Mellten yn cynnwys cyfraniadau gan amryw o artistiaid, cartwnwyr ac awduron.
Yn nhudalennau'r pedwerydd rhifyn mae stori frawychus am gawr blewog gan Jac Jones, stori estynedig am Capten Clonc yn dod benben â grŵp pop enwog Dim Cyfeiriad, a chip ar sŵ angenfilod Gwil Garw.
Bydd Bloben hefyd yn gwneud cymwynas, a Iola yn prynu robot ar gyfer Rali'r Gofod. Ailymunwn hefyd â Boc, y ddraig fach druenus, sydd ar goll mewn gorymdaith Gŵyl Ddewi.
Mae hefyd cyfle arbennig i ennill gêm gardiau brwydro o chwedlau ac arwyr Cymru.
Bydd y rhifyn nesaf o Mellten yn ymddangos ym mis Mehefin. Mae modd prynu copïau unigol o Mellten neu gellir tanysgrifio am £8 y flwyddyn drwy'r wefan, ysgolion, siopau llyfrau lleol neu yn uniongyrchol gan wasg y Lolfa.
Mae cyfle hefyd i danysgrifiwyr aildanysgrifio eto.