Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Diffyg straeon byrion cyfoes Cymraeg yn arwain at gyfrol newydd

Yr wythnos hon cyhoeddir cyfrol o saith stori fer gyfoes gan awdur newydd. Mae awdur straeon Stryd y Gwystlon, Jason Morgan, yn gobeithio y bydd ei gyfrol yn cyfrannu at yr hyn mae’n ei weld fel diffyg cyfrolau straeon byrion mewn llenyddiaeth sydd wedi bod yn adnabyddus am ei chyfoeth yn y ffurf honno. 

Meddai Jason Morgan:
“Fy hoff ffurf o lenyddiaeth ydi straeon byrion, yn enwedig gwaith Robin Llywelyn a Kate Roberts. Mae gennym ni draddodiad cryf o straeon byrion yn y Gymraeg, ac roedd y syniad o allu gwneud cyfraniad at hynny, waeth pa mor fach, yn apelio’n fawr. Dwi’n teimlo dros y blynyddoedd fod yna bwyslais cynyddol wedi bod ar nofelau llawn, a hyn ar draul y stori fer braidd. Hoffwn i weld mwy o straeon byrion yn cael eu cyhoeddi fel bod y traddodiad yn parhau ac yn cryfhau.” 

Mae’r AS Delyth Jewell yn disgrifio Jason Morgan fel “llais newydd, egnïol ym myd llenyddiaeth Cymru… Cipolwg ydy’r gyfrol hon ar gymeriadau sy’n Gymry modern… mae bywyd yn ei gyfanrwydd cnotiog, rhyfeddol yma.”

Meddai Jason: “Dwi’n meddwl mai’r hyn sy’n wahanol am y straeon ydi’r ffaith bod y saith stori yn cydblethu ac yn digwydd ar yr un pryd. Mae yna linyn yn y gwaith sy’n cysylltu pawb i raddau gwahanol,”.

Mae’r gyfrol yn ddwys ac yn onest, ac yn codi cwestiynau am natur cymdeithas heddiw. Mae’r straeon yn digwydd i gymdogion un stryd yng ngogledd Cymru ar un dydd Sadwrn glawog. Mae’n nhw’n cyffwrdd â gwahanol themâu – o ddiffyg ymwneud rhwng pobl, y mewnlifiad, unigrwydd, iselder, gwallgofrwydd, gwrthdaro rhwng y byd fel yr oedd a’r byd heddiw a’r berthynas rhwng teuluoedd. Yn ifanc ac yn hen, yn lleol ac yn fewnfudwyr, mae yna bellter rhwng cymdogion… ac eto, mae yna hanes rhyfedd sy’n eu plethu ynghyd.

Mae’r awdur eisoes yn gyfarwydd fel awdur y blog a’r golofn wythnosol ‘Hogyn o Rachub’ yng nghylchgrawn Golwg.