Dathlu'r byd a'i ryfeddodau
Mae Byd
Bach Dy Hun gan Sioned Medi Evans yn llyfr sy’n dod â sawl peth hynod
am y byd at ei gilydd mewn un lle, ac yn troi’r cymhlethdod mawr yn rhywbeth
syml, hawdd i’w ddeall ar gyfer plant. Dyma lyfr gweledol, sy’n adrodd stori
liwgar a chwareus drwy gyfrwng lluniau, ac sy’n holi cwestiynau ar ffurf odl
wrth fynd ymlaen – cwestiynau am y lleuad a’r sêr, y blodau a’r coed, a
chymaint mwy. Mae byd natur yn sylfaen gadarn i’r llyfr, ac yn frith drwyddo
hefyd gwelwn garedigrwydd, cyd-dynnu, amrywiaeth a chariad. Ond y neges
greiddiol yma ydi bod bydoedd bychain pawb yn rhannu pethau’n gyffredin, ond yn
gyforiog o bethau gwahanol hefyd.
Meddai
Sioned:
‘Mae Byd
Bach Dy Hun yn llyfr sydd yn holi’r darllenwyr am ryfeddodau eu byd
unigryw nhw. Beth sydd i’w weld yno? Pa lefydd arbennig sy’n bodoli, a pha fath
o bobol a chreaduriaid sy’n byw yno gyda nhw?
Ond
yn ddyfnach na hynny, mae’r stori yn awgrymu ac yn talu sylw at faterion fel yr
amgylchedd, pwysigrwydd caredigrwydd, hawliau plant i chwarae a chadw’n
ddiogel, a bod yn ti dy hun, yn dy fyd bach dy hun.
Gwelaf
y llyfr fel y darlun o’r dyfodol delfrydol allwn ei gynnig i’n plant, a’r
cenedlaethau ar eu holau. Byd gyda blodau, coed a môr, anifeiliaid o bob math a
phobol sydd yn barod i estyn llaw a chydweithio i gynnal a chadw’r hyn sydd
gennym ni. Mi fydd hefyd yn adnodd ar gyfer dysgu’r darllenydd y pwysigrwydd o
ddathlu a pharchu ein gwahaniaethau.’
Daw
Sioned yn wreiddiol o Ben Llŷn, ond mae hi bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn
gweithio fel darlunydd llawrydd. Mae’n teimlo angerdd dros ddylunio, adrodd
stori a phortreadu bywyd bob dydd yn ei gwaith, gan geisio ychwanegu ychydig o
liw a phositifrwydd i’r byd.
Mae Byd Bach Dy Hun gan Sioned Medi
Evans ar gael nawr (£4.99, Y Lolfa).