Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dathlu y gorau o chwedloniaeth Gymreig

A hithau wedi ei chlustnodi yn Flwyddyn y Chwedlau yng Nghymru, mae artist wedi mynd ati i ddathlu’r gorau o chwedlau Cymru drwy gyhoeddi dilyniant i lyfr lliwio poblogaidd.

Mae Lliwio’r Chwedlau / Colouring Welsh Tales gan yr artist Dawn Williams a gyhoeddir yr wythnos hon yn cynnwys 21 o luniau hyfryd i’w lliwio, yn seiliedig ar chwedlau poblogaidd Cymru, gan gynnwys golygfeydd o straeon Blodeuwedd, Cantre’r Gwaelod, Twm Siôn Cati, Rhys a Meinir, Santes Dwynwen, a Culhwch ac Olwen.

Mae’r llyfr yn dilyn llwyddiant Lliwio Cymru / Colouring Wales, sef y llyfr lliwio cyntaf Cymreig i oedolion a gyhoeddwyd llynedd gan werthu dros fil o gopïau.

‘Yn dilyn llwyddiant Lliwio Cymru dyma’r cyfle perffaith i gyhoeddi llyfr lliwio yn cynnwys golygfeydd o rai o’n prif chwedlau a’n straeon mwyaf adnabyddus ni yng Nghymru’ meddai Meinir Edwards, golygydd yng ngwasg Y Lolfa.

‘Mae’r lluniau sydd yn y gyfrol hon wedi eu dewis am eu bod yn olygfeydd cyffrous, yn hardd neu’n ddramatig. Maent yn cynnwys rhai o straeon hynafol y Mabinogion fel Culhwch ac Olwen a Blodeuwedd; yn straeon hanesyddol o bwys fel Santes Dwynwen a Gwylliaid Cochion Mawddwy; yn storïau plentyndod fel Gelert y ci, Llyn y Fan Fach a Twm Siôn Cati; ac maent yn dod o bob cwr o Gymru,’ meddai Meinir ‘Mae’r chwedlau ar ein stepen drws ni ac maen nhw’n tanio’r dychymyg!’

‘Rydw i’n hynod o falch fy mod i wedi cael siawns i greu ail lyfr lliwio Cymreig a hynny’n seiliedig ar y gorau o’n chwedloniaeth ni,’ meddai Dawn, ‘Mae chwedlau Cymreig yn rhan bwysig o’n diwylliant a’n hanes ni fel Cymry ac wedi ffurfio asgwrn cefn corff ein llenyddiaeth Cymraeg. Gobeithio bydd y llyfryn hwn yn ffordd wahanol o adrodd straeon ac yn galluogi i bobl ymlacio hefyd.’

Gwelwyd twf yng ngwerthiant llyfrau lliwio i oedolion wedi i seicolegwyr honni bod canolbwyntio ar liwio yn cael gwared ar feddyliau negyddol, yn gwella effeithiau straen ac yn ymlaciol.

Yn ôl y Sefydliad Iechyd Meddwl mae 59% o oedolion ym Mhrydain yn dweud eu bod dan fwy o straen heddiw nag oedden nhw bum mlynedd yn ôl. Er mai gweithred i blant oedd lliwio rhwng y llinellau ar un adeg, mae lliwio bellach yn cael ei ddefnyddio fel math o therapi amgen i helpu oedolion leddfu straen a gorbryder ac i ymlacio’r meddwl, y corff a’r enaid.

Cafodd Dawn Williams ei magu yn Sir Fôn ond erbyn hyn mae’n byw yn Llanrug gyda’i gŵr a’u tri mab. Mae’n treulio’i dyddiau yn creu darluniau o’i dychymyg sydd wedi eu hysbrydoli gan y byd o’i chwmpas.