Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dathlu tri chanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn a thalu teyrnged i'r diweddar Glyn Tegai Hughes

Yn 2017 dethlir trichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn, prif emynydd Cymru. Nawr, mae Cymdeithas Emynau Cymru a gwasg Y Lolfa yn ymuno a’r dathlu ac yn talu teyrnged i’r diweddar Glyn Tegai Hughes, arbenigwr ar waith Pantycelyn, drwy gyhoeddi cyfrol o’i ysgrifau.

‘Trwy lunio’r gyfrol ceisiwn gyflawni dau beth: yn gyntaf, cyfrannu at ddathlu trichanmlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn, prif emynydd Cymru; ac yn ail, anrhydeddu’r cof am y diweddar Glyn Tegai Hughes (1923–2017), a gyfrannodd mor helaeth at ein dealltwriaeth o’r Pêr Ganiedydd’ meddai Rhidian Griffiths, Llywydd Cymdeithas Emynau Cymru.

‘Roedd diddordeb Glyn Tegai yn Williams a’i waith yn fyw hyd y diwedd. Dechreuodd baratoi papur arno i’w draddodi yn Llanfair Caereinion ar 19 Chwefror 2017, ond ni lwyddodd i’w orffen.’ meddai Rhidian Griffiths.

Yn Yr Hen Bant – Ysgrifau ar Williams Pantycelyn gan Glyn Tegai Hughes cesglir ynghyd nifer o ysgrifau Glyn Tegai Hughes ar agweddau ar waith Williams a ymddangosodd mewn cylchgronau a chyfrolau eraill dros y blynyddoedd.

Ymhlith yr agweddau sy’n cael sylw y mae gweithiau rhyddiaith Williams, dylanwad y Piwritaniaid arno, a chynnwys ei lyfrgell bersonol. Ceir hefyd gymhariaeth rhyngddo a’i gyd-emynydd Charles Wesley a dadansoddiad o ‘Emyn yr Ardd’.

‘Lla wenychais pan glywais fod y Lolfa, ar gais Cymdeithas Emynau Cymru, yn mynd i gyhoeddi cyfrol o’r ysgrifau a luniodd y Dr Glyn Tegai Hughes ar wahanol agweddau ar waith Williams Pantycelyn’ meddai’r Athro Derec Llwyd Morgan sydd wedi ysgrifennu rhagair y gyfrol, ‘Llawenychais yn rhannol am fod yr ysgrifau yn haeddu cael eu corlannu, yn rhannol hefyd am fod y Dr Hughes yn haeddu cofadail o’r fath.’

 ‘Yr oedd yn ysgolhaig, yn hanesydd syniadau ac yn feirniad llenyddol o bwys. Ond pan fu farw ym mis Mawrth eleni, ar drichanmlwyddiant geni un o’i brif arwyr, ychydig iawn o sôn a fu am ei gyfraniadau gwerthfawr i ddysg Gymraeg ac i fywyd cyhoeddus Cymru’ ychwanegodd, ‘Y mae cyhoeddi’r gyfrol hon yn rhyw iawn am hynny.’

Ganed Glyn Tegai Hughes yn 1923, yn fab i weinidog Wesle. Graddiodd yng Nghaergrawnt a bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Manceinion cyn dychwelyd i Gymru yn 1964 i fod yn Warden Gregynog, swydd a ddaliodd tan ei ymddeoliad yn 1989. Bu’n Llywodraethwr Cymru i’r BBC ac yn Gadeirydd Cyngor Darlledu Cymru. Cyhoeddodd nifer o astudiaethau llenyddol, gan gynnwys cyfrol ar Williams Pantycelyn yn y gyfres Writers of Wales a chyfrol ar Islwyn yng nghyfres Dawn Dweud. Bu farw ym mis Mawrth 2017.