Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

DATHLU DROS 10,000 O FLYNYDDOEDD O HANES Y MÔR MEWN LLYFR NEWYDD

Mae’r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr erioed o hanes y môr yng Nghymru - a gymrodd dros ddegawd i’w hymchwilio a’i chynhyrchu - yn cael ei chyhoeddi’r wythnos yma. Mae’r gyfrol Cymru a’r Môr: 10,000 o Flynyddoedd o Hanes y Môr yn tyrchu i bob agwedd o gysylltiad Cymru â’r môr, o hanes cynnar i’r presennol: o archeoleg i baentiadau a barddoniaeth, o hanes morwrol i wyliau glan y môr.

 

Fe gafodd y gyfrol ei chomisiynu gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru mewn cydweithiad gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, CADW, Amgueddfa Cymru, a’i hysgrifennu gan rai o haneswyr ac archeolegwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Mae Cymru a’r Môr yn cynnwys hen ffotograffau archifol a ddaw yn bennaf o gasgliadau enfawr Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Amgueddfa Cymru, ond hefyd o lyfrgelloedd o bedwar ban byd.

 

Mae darganfyddiadau archeolegol o Gymru - gan gynnwys cychod o’r Oes Efydd, llongau Rhufeinig a’u llwythi, y llong ganoloesol o Gasnewydd a’r iot frenhinol o’r ail ganrif ar bymtheg Mary - yn tystio i hanes cyfoethog Cymru fel gwald fordeithiol. Mae Cymru a’r Môr yn dod â’r cyfan yn fyw: llongau mawr y cefnfor, y llongau a fu’n gosod ceblau oedd yn cysylltu Cymru â gweddill y byd, yr llongau pleser, yr iotiau rasio a’r pierau glan môr, yn ogystal â’r dociau prysur oedd yn cyflenwodd llechi, glo, haearn a dur o Gymru i weddill y byd. 

 

Rhai o arwyr a dihirod y llyfr yw’r bycanîr Henry Morgan, y smyglwr William Owen a’r môr-leidr ysgeler Bartholomew Roberts, neu Barti Ddu, y dwedir iddo gipio 400 o longau mewn cyfnod o ddwy flynedd cyn cael ei saethu gan y Llynges Frenhinol yn 1722. Ceir hefyd ffigyrau fel yr arwres enwog Jemima Niclas a fentrodd allan yn ei chlogyn coch, gyda phicwarch yn ei llaw, i helpu trechu goresgyniad y Ffrancwyr ger Abergwaun ar 24 Chwefror 1797.

 

Wedi ei ddarlunio’n fendigedig ac yn llawn dros 300 ddelweddau, mae’r gyfrol swmpus 348 tudalen yn edrych ar ddylanwad y môr ar y dychymyg artistig trwy baentiadau morwrol, morluniau, barddoniaeth, caneuon a chofroddion poblogaidd o lan-y-môr. Y nod yw codi ymwybyddiaeth gyhoeddus o ran proffil treftadaeth forol Cymru a dathlu gwaith caled y sawl sydd yn diogelu y dreftadaeth hon ar gyfer y genedl, trwy recordio, amddiffyn safleoedd a gwaith curadu mewn amgueddfeydd.

 

Yn ei ragair, llongyfarchir cyfranwyr Cymru a’r Môr gan Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Cynulliad Cymru, Dafydd Elis-Thomas, “am i chi’n hatgoffa ni fod i Gymru hanes morwrol balch”. Mae hefyd yn ein hatgoffa bod moroedd Cymru yn gorchuddio arwynebedd mwy nag arwynebedd ein tir (arwynebedd morol 32,000km² / arwynebedd tir 20,375 km²).

 

“Mae Cymru a’r Môr yn hanes hynod o gynhwysfawr ac ar gael i bawb. Mae’n cynnwys pob agwedd o gysylltiad Cymru â’r môr, o’r adeg pan grewyd tirfas i heddiw,” meddai Nicola Roberts, Swyddog Ymgysylltu a’r Cyhoedd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.

 

Mae Cymru a’r Môr wedi’i wreiddio mewn ysgolheictod ond fe’i ysgrifennwyd i’w fwynhau, ac mae’n llawn storïau a lluniau sy’n ein hatgoffa o’r rhan allweddol y mae’r môr wedi’i chwarae yn hanes unigryw Cymru.