Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Dathlu Cymry o fri ar ddydd Gŵyl Dewi

‘Gwnewch y pethau bychain’, dyna oedd gyngor Dewi Sant. Eleni ar Ddydd Gŵyl Dewi beth am wneud rhywbeth bach drwy ddathlu 50 o Gymry ysbrydoledig sydd wedi llwyddo yn eu maes?

Mae Cymry o Fri! 50 o Enwogion o Gymru gan Jon Gower yn cloriannu hanes 50 o Gymry, pob un fesul dwy dudalen, ac yn cynnwys lluniau gwreiddiol gan yr arlunydd Efa Lois, yn ogystal â ffotograffau.

Meddai’r awdur Jon Gower:

“Rwy’n gobeithio y bydd y llyfr yma yn ysbrydoli. Roeddwn i am ei ysgrifennu oherwydd roedd gen i’r teimlad bod llyfr o’r fath yn ffordd dda i ysbrydoli drwy esiampl. Mae nifer o’r bobl yma nid yn unig wedi llwyddo i gyrraedd y brig yn eu meysydd penodol, ond hefyd wedi wynebu heriau neu rwystrau ar hyd y ffordd.”

Ceir enwau o wahanol gyfnodau mewn hanes – o Hywel Dda i Jade Jones – a hefyd yn arbenigwyr yn eu meysydd penodol, fel chwaraeon, llenyddiaeth, diwydiant, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth, celf. Mae’r gyfrol yn addas ar gyfer plant 7 i 11 oed yn bennaf. Ceir ambell gwestiwn ar ffurf cwis, a chyfle i’r plant wneud gwaith ymchwil ar y we i ddod o hyd i gwestiynau penodol neu i ddod i wybod mwy am y Cymry pwysig sydd wedi gwneud gwahaniaeth i’n bywydau ni fel Cymry.