Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Datgelu'r frwydr dros addysg Gymraeg ac yn erbyn Education First gan addysgwr 'Stalinaidd' Dyfed

Ar 10 Mai cyhoeddir hunangofiant gan un o ffigyrau amlycaf y byd addysg yng ngorllewin Cymru sy’n tystio i’r newidiadau mawr a fu yn y Fro Gymraeg yn ystod chwarter olaf yr ugeinfed ganrif dan ddylanwad y mewnfudo.

Yn y gyfrol, Agor Cloriau: Atgofion Addysgwr, mae John Phillips yn cyfeirio at y newidiadau yng nghymeriad ieithyddol llawer o’r ysgolion bach gwledig mewn cyfnod o ugain mlynedd. Fel dirprwy ac yna cyfarwyddwr addysg sir Aberteifi bu’n rhaid wynebu gwrthwynebiad chwyrn o blaid y Language Freedom Movement yn Aberystwyth wrth geisio cryfhau polisi iaith y sir. Dangoswyd llawer o elyniaeth hefyd yn erbyn sefydlu ysgol ddwyieithog Penweddig yn arbennig o gyfeiriad y Blaid Lafur leol. Ond llwyddwyd i wrthsefyll y casineb a ddaeth i’r amlwg. Yn ystod ei gyfnod fel Cyfarwyddwr Addysg Dyfed sefydlwyd pump ysgol ddwyieithog arall sef Ysgol y Strade, Ysgol Bro Myrddin, Ysgol Maesyryrfa, Ysgol Dyffryn Teifi ac Ysgol y Preselau. Bu tipyn o wrthwynebiad ynglŷn a’r ddwy olaf a chafwyd llawer o anghydfod yn enwedig yng ngogledd Sir Benfro.

Wrth geisio cryfhau polisi iaith yr ysgolion cynradd cafodd John Phillips ei feirniadu’n llym gan Education First a chan aelod seneddol llafur Caerfyrddin. Cafodd ei gyhuddo o fod yn ‘Stalinistaidd’ ac o gyflwyno system o ‘apartheid’. Aeth y dadlau i sylw’r wasg yn Lloegr a bu’n rhaid iddo ef ymddangos droeon ar deledu i amddiffyn y polisi. Bu hyd yn oed Bernard Levin colofnydd pigog y Times yn lladd arno ef a’r polisi yn y papur hwnnw. Er i’r mater fynd i’r Uchel Lys ni ildiodd Dyfed ac enillodd y Pwyllgor Addysg yr achos. Dyrchafwyd John Phillips i swydd Prif-weithredwr Dyfed yn 1990 y sir fwyaf yn ddaearyddol yng Nghymru.

Yn y gyfrol hefyd ceir disgrifiadau difyr o fywyd mab i golier ym mhentref Gwauncaegurwen yn ystod y rhyfel ac o ddylanwad Eic Davies arno ef a’i gyd-dysgyblion a oedd yn cynnwys dau archdderwydd ac un actores ddisglair iawn. Ceir pigion hefyd o fywyd yng ngholeg Aberystwyth, yn y fyddin ac fel athro ifanc yn East End Llundain (ardal y Krays).

Wedi ymddeol yn 1996 bu John Phillps yn weithgar iawn mewn amryw o feysydd. Bu’n Gyfarwyddwr Cymru a’r Byd ac fe alwyd arno gan y Cynulliad i greu un gymdeithas ar gyfer y cynghorau bro. Bu’n cadeirio amryw o bwyllgorau apêl o fewn y Gwasanaeth Iechyd gan gynnwys dau achos o lofruddiaeth. Heddiw mae’n ceisio dangos pa mor echrydus yw’r gofal am gleifion ‘dementia’ yn dilyn tostrwydd ei wraig Bethan, ac fe ymddangosodd ar raglen Beti George ar deledu yn ddiweddar.