Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cymeriad unigryw o Geredigion yn ganolbwynt llyfr newydd i blant gan Valériane Leblond

Mae’r arlunydd a dylunydd adnabyddus Valériane Leblond wedi darlunio llyfr i blant am wraig anghyffredin iawn – Siani Pob Man (Y Lolfa). Morfudd Bevan sydd wedi ysgrifennu’r testun am y cymeriad go iawn Siani Pob Man, oedd yn byw mewn bwthyn bach ar draeth Cei Bach, ger Aberaeron yn y 19fed ganrif.

Meddai Valériane Leblond:

“Wnes i ddarganfod llun o un o gardiau post Siani Pob Man mewn llyfr hanes lleol Aberaeron, ac yna ar wahoddiad Peter Stevenson, wnes i ddarlunio’r stori ar gyfer gŵyl straeon Aberystwyth - amser hir yn ôl erbyn hyn! Roeddwn i, Morfudd a Peter yn teimlo bod angen codi ymwybyddiaeth am gymeriad anhygoel Siani – merch Gymraeg gryf ac annibynnol!”

Jane Leonard oedd enw iawn Siani. Ganwyd hi yn 1834 a bu’n byw ar Fferm Bannau Duon yn Llanarth, nes symud yn 1883 i’r bwthyn yng Nghei Bach. Claddwyd hi ym mynwent Eglwys Dewi Sant, Henfynyw yn 1917. Roedd Siani’n crwydro’r ardal yn gwerthu wyau ei ieir o ddrws i ddrws, yn darllen ffortiwn ymwelwyr yng Nghei Newydd ac yn gwerthu cardiau post. Roedd yn storïwr a ac yn gantores ddawnus ac roedd plant yr ardal yn mynd ati i wrando ar stori yn aml. Ar ôl iddi farw, gadawodd £120 mewn tun bisgedi fel rhodd i blant tlawd yr ardal a phlant sâl yn yr ysbyty lleol.

Mae’r gyfrol wedi cael help tîm DETS yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a chasgliad sain AGSSC. Diolch iddyn nhw a’r cofnodion, dadorchuddiwyd lleisiau o’r 1960au oedd yn sôn am fywyd ardal Aberaeron ar ddechrau’r 20fed ganrif. Roedd straeon difyr am yr hen ffordd o fyw gan gynnwys rhai am Siani Pob Man.

Meddai Valériane:

“Mae rhywbeth bywiog iawn am y recordiau llafar o bobl gyffredin yn siarad am eu milltir sgwâr. Mae cymeriad Siani yn anhygoel, mae hi’n ddoniol, creadigol, 'chydig bach (!) yn 'styfnig ac fe wnaeth hi ddilyn llwybr ei hun mewn amser pan oedd bywyd yn gyfyng i ferched. Ac wrth gwrs mae hi’n berffaith i’w darlunio, gyda’r wisg draddodiadol, yr ieir, a’r bwthyn igam ogam ar lan y môr.”

Cafwyd help gyda’r ymchwil gan deulu Morfudd Bevan – ei wncwl. sy’n byw yng Nghei Bach, a’i mam.

Meddai Morfudd Bevan:

Mae gwreiddiau teulu fy nhad yn ddwfn yn ardal Cei Bach lle’r oedd Siani yn byw a byddai’n aml yn mynd â fi am dro ar y traeth yno gan adrodd straeon am Siani wrtha i. Roedd yn fraint llwyr i ysgrifennu’r testun - mae stori bywyd Siani Pob Man yn un ysbrydoledig ac mae’n hollbwysig ein bod yn cofio cymeriadau a luniodd gefn gwlad Cymru.”