Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cymeriad 'camp' pumed marcwis Môn yn ysbrydoli nofel

Yr wythnos hon cyhoeddir Siani Flewog, ail nofel yr awdures o Fôn, Ruth Richards. Fel ei nofel gyntaf lwyddiannus, Pantywennol, ceir llinyn o’r gorffennol wrth i’r nofel ddarlunio cymeriad lliwgar y bonheddwr Henry Cyril Paget, pumed Marcwis Môn (1875 – 1905). Plas Newydd, Ynys Môn (nawr o dan gadwraeth Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) oedd un o’i stadau niferus. Drwy wario’n afradlon ar dlysau, gemau a chyflwyniadau theatrig, llwyddodd Henry Cyril Paget i ddifa ffortiwn oedd yn gyfwerth â thua £11 miliwn y flwyddyn yn arian heddiw.

 

Meddai Ruth Richards: “dwi wedi dotio arno [y Marcwis] ers blynyddoedd bellach. Daeth y syniad am nofel o ganfod ei fod yn siarad Cymraeg, yn casglu llyfrau Cymraeg ac yn ymwneud â’r Eisteddfod. Roedd hefyd, yn ôl pob sôn, yn boblogaidd iawn ymysg pobl leol Bangor a Môn. Parodd hyn i mi ddychmygu ei ddylanwad ar ei gymuned leol.”

 

Presenoldeb ydyw yn hytrach na chymeriad cyflawn, gan i’r nofel ymdrin yn bennaf â dylanwad y Marcwis ar fywydau dwy ferch, Annie Roberts ac Eluned Humphreys, o blwyf Llanedwen. Meddai Ruth “Annie Roberts, ac nid y Marcwis yw’r prif gymeriad, ond mae ei bresenoldeb yn treiddio drwy’r holl nofel, o gyfoeth y Plas i dlodi dirwasgiad y Tridegau a chyfnod yr Ail Ryfel Byd yn Amlwch.”

 

Daw teitl y nofel gan Bob Wmffras, un o gymeriadau’r nofel, wrth iddo alw’r Marcwis yn ‘Siani Flewog’:

“Be arall fedar rhywun alw dyn hefo mwstas mewn dillad dynes?” Roedd sôn ei fod yn hoyw, gyda’i briodas yn chwalu o fewn misoedd a chanddo hoffter o wisgo dillad merched. Hanes damcaniaethol yn unig sydd yn y nofel, gan nad oes tystiolaeth o berthynas (ag eithrio ei briodas aflwyddiannus). Roedd yr ochr yma o’i gymeriad hefyd yn diddori Ruth:

 

“Roeddwn yn awyddus iawn i dalu teyrnged i’r syniad o ‘camp’ – yr ymagwedd liwgar, herfeiddiol a chwareus a fabwysiadwyd yn draddodiadol gan ddynion hoyw, ond all fod yn galondid i bawb. Yn anffodus, nid oes gair boddhaol am ‘camp’ yn y Gymraeg, ond dyma fy ymgais i roi llais Cymraeg iddo.”

 

Disgrifiwyd Siani Flewog fel “nofel gywrain a champ-us sy’n plethu dychymyg amryliw pumed Marcwis Môn â phrofiadau dwysaf rhai o’i gyfoeswyr” gan Gerwyn Wiliams.

 

Cyhoeddwyd nofel gyntaf Ruth Richards, sef Pantywennol, yn ystod gaeaf 2016, ac fe seiliwyd ar hen chwedl o Ben Llŷn. Bu’r nofel yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol y flwyddyn honno gan werthu’n arbennig o dda.

 

Cafodd Ruth ei magu yng Nghemaes, Ynys Môn, ond mae bellach yn byw ym Miwmares. Bu’n fyfyrwraig ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor ac mae’n gweithio i’r mudiad lobïo, Dyfodol i’r Iaith.