Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi'r llyfr Cymraeg cyntaf am y Tour de France

Yr wythnos hon cyhoeddir y llyfr Cymraeg cyntaf am y Tour de France gan Llion Iwan – Geraint Y Cymro a’r Tour de France (Y Lolfa). Mae’r llyfr yn olrhain hanes rhyfeddol buddugoliaeth Geraint gan ddilyn ei gamp yn ogystal â dilyn taith darlledu’r Tour yn y Gymraeg ers 2013 gan y person wnaeth sicrhau’r hawliau hynny, Llion Iwan.

 

Yn y gyfrol ceir blas o’r cyffro a’r bwrlwm oedd ymhlith sylwebwyr S4C yn ystod y ras, yn ogystal â chyfweliadau gyda rai o enwau mawr byd seiclo fel Christian Prudhomme, trefnydd y Tour ei hun.

 

Ysgrifennwyd y gyfrol gan Llion Iwan, a oedd yn gyfrifol am sicrhau hawliau darlledu’r Tour ac a oedd ym Mharis yn dathlu llwyddiant anhygoel Geraint. Prin y gallai unrhyw Gymro nac unrhyw ddarlledwr fod wedi dychmygu y byddai Cymro yn ennill y Tour pan gytunwyd ar yr hawliau bum mlynedd yn ôl.

 

Meddai Llion Iwan: “Roedd camp Geraint yn anhygoel, ymysg goreuon byd chwaraeon erioed gan Gymro. Roedd hefyd yn ddigwyddiad mawr i Gymru ac i S4C ac roedd yn fraint darlledu’n Gymraeg a gweld y ddraig goch ar y podiwm o flaen miliynau amgylch y byd.”

 

Yn y gyfrol ceir sboniad sut i faner un o sylwebwyr S4C gyrraedd y podiwm a cheir darlun o’r holl gyffro a’r canu ym Mharis, a sut i gacennau Llinos Lee gael enwogrwydd drwy’r byd.

 

Mae’r llyfr yn dilyn pob un o’r 21 cymal y Tour gydag atgofion ffraeth gan rai o sylwebwyr a chyfranwyr amlycaf S4C gan gynnwys Wyn Gruffydd, Rhodri Gomer, Peredur ap Gwynedd, Llinos Lee a Dewi a Gareth Rhys Owen.

 

Mae’r llyfr hefyd yn cynnwys lluniau ardderchog sy’n darlunio rhai o uchafbwyntiau Geraint, yn cynnwys profiadau cefnogwyr o Gymru ar yr Alp D’huez.