Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi'r cofiant cyntaf erioed i un o 'ffotograffwyr newyddiadurol gorau'r byd' - Philip Jones Griffiths

Degawd ers marwolaeth un o’r ffotograffwyr newyddiadurol gorau’r byd, y Cymro Cymraeg Philip Jones Griffiths, fe gyhoeddir y cofiant cyntaf erioed iddo, a hynny yn ei famiaith. Mae’r gyfrol Philip Jones Griffiths - Ei Fywyd a’i Luniau gan Ioan Roberts, a gyhoeddir yr wythnos hon gan wasg y Lolfa, yn cynnwys hanner cant o luniau trawiadol gan Philip ei hun, o Gymru, Fietnam a sawl gwlad arall.

Fe gofir Philip Jones Griffiths yn bennaf am ei luniau yn rhyfel Fietnam, a gyfrannodd at newid agwedd pobl America tuag at y rhyfel hwnnw. Yn ystod ei yrfa fe ymwelodd â 140 o wledydd, llawer ohonyn nhw yng nghanol erchylltra rhyfel a dioddefaint. Ond byddai’n gwrthod cael ei labelu fel ffotograffydd rhyfel. Nid rhyfela ynddo’i hun oedd ei ddiddordeb, ond mynd i wraidd y rhesymau fod y rhyfel yn digwydd, a’r effaith a gai ar fywydau pobl ddiniwed. 

Yn Fietnam credai fod lluoedd yr Unol Daleithiau yn ceisio gwthio’u gwerthoedd eu hunain ar yr hen wareiddiad lleol, rhywbeth a’i hatgoffai o’r gwrthdaro diwylliannol ac ieithyddol yr oedd wedi ei brofi yn ystod ei blentyndod ger y ffin yn Rhuddlan. Y rheswm iddo fod mor llwyddiannus yn ei waith yn Fietnam oedd bod ei brentisiaeth ar gyfer y wlad honno wedi cychwyn yn ystod ei blentyndod yng Nghymru, meddai. Mae’r gyfrol hon yn adrodd hanesion newydd am y plentyndod hwnnw, gan gynnwys cryn dipyn o hiwmor..

Ei amcan trwy ei waith, meddai, oedd ‘taenu goleuni ar ddarnau tywyll o’r byd’.

‘Roeddwn wedi penderfynu mai fi fyddai’r un i ddarganfod beth oedd y gwirionedd’ meddai, ‘Tynnu lluniau go iawn o bobl go iawn, dyna fy uchelgais.’

Ar ôl gadael Ysgol Ramadeg Llanelwy bu Philip yn astudio yn Ysgol Fferylliaeth Prifysgol Lerpwl. Ac yna’n gweithio fel fferyllydd gyda chwmni Boots yn Llundain. Dechreuodd dynnu lluniau’n rhan amser i bapurau fel yr Observer a’r Sunday Times, cyn troi’n ffotograffydd amser llawn. Aeth i fyw i Efrog Newydd ar ôl dod yn Llywydd asiantaeth ffotograffiaeth enwog Magnum, swydd y bu ynddi am bum mlynedd, cyfnod hirach na neb arall.

Yn ei deyrnged iddo dywedodd un arall o ffotograffwyr Magnum, Stuart Franklin ‘He gave to photojournalism its moral soul’.

Mae’r gyfrol clawr caled yn cynnwys hanner cant o’i ffotograffau, rhai ysgytwol o faes y gad, eraill yn portreadu Cymru ddiwydiannol sydd wedi hen ddiflannu. Mae ffotograffau Philip Jones Griffiths, fel Philip ei hun, yn gymysgedd o ing a hiwmor.

Daeth yr awdur a newyddiadurwr Ioan Roberts o Bwllheli i adnabod \Philip Jones Griffiths gyntaf yn 1996 trwy ei waith yn y byd teledu, a bu’r ddau mewn cysylltiad achlysurol yn hyd at farwolaeth Philip yn 2008.

‘Yn greiddiol i’w waith mae ei ddyneiddiwch, ei gariad at bobl a’i gydymdeimlad greddfol gyda’r gwan. Mae hynny’n tarddu o’i Gymreictod a’i fagwraeth,’ meddai Ioan Roberts, ‘Trwy roi goleuni newydd ar ei gefndir, rwy’n gobeithio bydd y gyfrol hon yn gwneud gyrfa ddisglair Philip Jones Griffiths yn haws ei deall.

‘Roedd gan Philip argyhoeddiadau cryf, roedd yn gawr o ddyn yn gorfforol ac o ran ei bresenoldeb, ac eto’n gyfeillgar a ffraeth’.

Mae ei waith wedi denu clod gan rhai o enwogion ym myd ffoto-newyddiaduraeth gan gynnwys un o sylfaenwyr Magnum, Henri Cartier-Bresson, a ddywedodd, ‘nid oes neb ers Goya wedi portreadu rhyfel fel y gwnaeth Philip Jones Griffiths’.

Ac meddai’r newyddiadurwr a’r cyfarwyddwr enwog o Awstralia, John Pilger,

‘Fe oedd ffotograffydd gorau fy oes i, ac roedd yn un o’i newyddiadurwyr mwyaf ardderchog, ac yn ddyngarwr ar ben hynny. Mae ei luniau o bobol gyffredin, o’i Gymru annwyl i Fietnam ac i gysgodion Cambodia, yn gwneud i chi sylweddoli pwy yw’r arwyr go iawn. Roedd ef yn un ohonyn nhw.’

Yng ngeiriau Marian Delyth, a gyfrannodd ragair y gyfrol,

‘Byddai’n destun balchder i Philip rwy’n siŵr i weld mai yn yr iaith Gymraeg mae’r cofiant cyntaf iddo yn cael ei gyhoeddi. Mae deng mlynedd ers i ni ei golli bellach. Gwireddwyd un rhan o ddymuniad Philip – sef bod ei waith yn cael ei gadw yng Nghymru.’

‘Ein cyfrifoldeb ninnau yw sicrhau cyfleoedd i'r delweddau hynny fedru parhau i ddylanwadu ar feddyliau cyfoes ym mhob cyfnod fel y gwnaethant gyda rhyfel Fietnam’ ychwanegodd.