Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi nofel 'milenial' gyntaf y Gymraeg

Mae’r awdures Llio Maddocks yn ystyried ei nofel newydd fel y nofel milenial gyntaf i’w chyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Mae Twll Bach yn y Niwl yn nofel ysgafn am dyfu lan ar ddechrau’r unfed ganrif ar hugain ac yn rhoi byd olwg unigryw ar fod yn Gymraes yn y cyfnod cythryblus yma.

Mae Twll Bach yn y Niwl yn llawn hiwmor ond eto yn ymdrin â themâu aeddfed, dwys sydd yn pontio oedolion ac oedolion ifanc ac yn siarad yn blaen am yr heriau a’r hwyl sy’n wynebu pobl ifanc heddiw.

Disgrifiodd Dewi Prysor y nofel fel un “fywiog a gafaelgar, â’i stori ddirdynnol yn llifo fel afon trwyddi.”

“Ro’n i’n chwilio am lyfr fyddai’n berthnasol i mi, yn sôn am hanes pobl ifanc yn eu hugeiniau a’r trafferthion mae’n cenhedlaeth ni yn eu profi, ond ro’n i’n methu dod o hyd i’r stori berffaith, felly penderfynais ei sgwennu! Ro’n i wrth fy modd efo Hi yw fy Ffrind gan Bethan Gwanas pan oeddwn yn y chweched dosbarth, ac ro’n i eisiau sgwennu llyfr fyddai yr un mor berthnasol i’r genhedlaeth nesaf. Mae lot o briodweddau a thrafferthion y cymeriadau wedi eu hysbrydoli gan fy ffrindiau i. A dweud y gwir, mae tri o’r cymeriadau, Aled, Llŷr a Huw, yn bobl go iawn ac yn rhai o fy ffrindiau gorau. Hawdd iawn ydi cael ysbrydoliaeth pan mae fy ffrindiau’n gwbl hileriys, mae mwy nag un lein o’r ddeialog wedi ei ddyfynnu yn syth wrthyn nhw!” meddai Llio am yr ysbrydoliaeth i ysgrifennu’r nofel.

Mae’r nofel yn dilyn Lowri, merch yn ei hugeiniau sydd wedi symud adref ar ôl graddio wrth iddi chwilio am swydd, delio gyda phroblemau carwriaethol, gweld ei ffrindiau’n symud i ffwrdd ac ymdopi gyda salwch yn y teulu. Buan y mae’n dysgu na ddaw neb i’w hachub o’r twll sy’n tyfu’n fwy bob dydd – mae’n rhaid iddi ei hachub ei hun.

“Mae hi’n stori gyfeillgarwch a thyfu i fyny, am fod yn oedolion sy’n dal i fihafio fel plant, a dwi’n siŵr y bydd nifer fawr o bobl yn ffeindio hynny’n berthnasol! Mae’r nofel hefyd yn trin a thrafod caniatâd rhywiol mewn ffordd y byddwn i wedi hoffi i glywed pan o’n i’n iau,” meddai Llio. “Dwi’n licio deud mai hon yw’r nofel milenial gyntaf yn y Gymraeg…”

Dyma nofel oedolion gyntaf Llio Maddocks, ac mae’r broses wedi bod yn gofiadwy!

“Rwy wedi crio lot ac wedi procrastinato hyd yn oed mwy, ac wedyn roedd angen gwneud y gwaith golygu! Ond mae derbyn y proflenni a gweld ffrwyth dy lafur werth pob eiliad o’r boen.”