Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi nofel gyntaf un o brif nofelwyr Cymru ers wyth mlynedd

Mae un o brif nofelwyr Cymru wedi cyhoeddi ei nofel gyntaf ers bron i ddeng mlynedd.

Nofel gyffrous sy’n mynd â’r darllenydd i fyd arswydus y goruwchnaturiol yw Yn Fflach y Fellten gan Geraint V. Jones â gyhoeddir yr wythnos hon gan Y Lolfa.

Enillodd Geraint V. Jones wobr Daniel Owen deirgwaith ac mae wedi cyhoeddi dros ddeg o nofelau ond dyma ei nofel gyntaf ers degawd.

Yn y nofel, mae pethau’n aflonydd iawn yn y Plas. Does neb yn aros yno am yn hir. Fe ddaeth y diwedd i fwy nag un rhwng yr hen waliau, a hynny mewn amgylchiadau annymunol iawn. A beth am y perchennog presennol, Maldwyn Davis? A yw’n gwybod gormod o hanes y lle i fyw’n ddedwydd, a’r cerflun efydd yn taflu ei gysgod dros bob peth?

Fe fydd yn rhaid mynd yn ôl i ddatrys sawl dirgelwch cyn i’r gorffennol chwalu’r presennol yn llwyr.

‘Roedd y syniad o lunio stori ysbryd wedi bod yn cronni yn fy mhen ers tro,’ eglurodd Geraint, ‘Mae prinder amlwg o’r genre hwn – hynny yw, straeon yn ymwneud â’r goruwchnaturiol, yn y Gymraeg. Rhyw ymgais betrus i gyfrannu mymryn sydd yma!’

‘Petai rhaid i mi ddisgrifio’r nofel mewn tair gair – ‘stori yn gafael’ fyddai hwnnw. Dyna fy ngobaith!’ ychwanegodd, ‘Ond dim ond y darllenydd a all benderfynu os yw'r nofel yn ateb y diben hwnnw ai peidio!’

Disgrifwyd Geraint fel ‘un o awduron mwyaf crefftus ein cenedl’ gan awdur nofel Dadeni, Ifan Morgan Jones, ‘Mae ganddo’r ddawn i gyfuno ysgrifennu sy’n swyno â phlot sy’n cadw’r tudalennau i droi.’

Mae Geraint yn gobeithio parhau i gyhoeddi eto yn fuan.

‘Mae gen i nofel ar y gweill ond mae angen tipyn o waith arni eto!’ mae’n cyfaddef, ‘Ond mae’n olrhain dirgelwch yn hanes un teulu a sut y caiff ei datrys.’

Mae Geraint V Jones wedi cyhoeddi deg nofel Gymraeg ac un Saesneg, yn ogystal â nifer o nofelau byrion i blant a phobl ifanc, gan gynnwys y casgliad o straeon ysbryd Storïau Dychymyg Du. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yr Eisteddfod Genedlaethol deirgwaith gydag Yn y Gwaed (1990), Semtecs (1998) a Cur y Nos (2000). Ef hefyd oedd golygydd y cyfrolau Cymeriadau Stiniog a Plu Stiniog gan Emrys Evans a chyd-olygydd y flodeugerdd Yn Fyw Mewn Geiriau. Ganed ym Mlaenau Ffestiniog a bu’n bennaeth adran y Saesneg yn Ysgol Bryn Alyn, Gwersyllt, Wrecsam am gyfnod ac yna yn bennaeth Adran Gymraeg yn Ysgol y Moelwyn.