Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi nofel ddaeth yn agos at gipio Gwobr Goffa Daniel Owen 2021

Yr wythnos hon cyhoeddir ail nofel John Roberts, Yn fyw yn y cof (Y Lolfa). Cyfrol am gefn gwlad a’r ddinas, am golli a dal gafael ac am gariad a dialedd. Roedd beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod AmGen eleni yn llawn canmoliaeth, a bron iddi gipio’r wobr yn y gystadleuaeth honno.

Meddai Aled Islwyn, un o feirniaid y gystadleuaeth: 
“Gyda llond trol o gymeriadau credadwy a’r tudalennau’n pefrio gan enwau difyr y ffermydd a’r tyddynod... teg tybio bod yr awdur wedi hen ymdrwytho ym mytholeg ‘yr hen ffordd Gymreig o fyw’. Ond gŵyr hefyd y gall dogn dda o surni fod ynghudd o dan bob melystra... does dim amheuaeth and yw hon yn nofel gyfoes swmpus o safon’ 

A dywedodd Gwen Pritchard Jones, beirniad arall y gystadleuaeth: ‘Mae strwythur diddorol iawn i’r nofel hon, gyda’r Heddiw, Ddoe ac Echdoe yn fodd i adrodd hanes tair cenhedlaeth o’r un teulu.” 

Mae’r nofel yn adrodd hanes Anti Glad sy’n ffermio Tyddyn Bach, ei nai Iorwerth sy’n newid cyfeiriad ar ôl marwolaeth ei fodryb a Bethan, y ferch sy’n wynebu sawl croesffordd mewn bywyd. 

Dywed John Roberts: ‘Mae Yn fyw yn y cof yn stori am dair cenhedlaeth – Anti Glad, Iorwerth a Bethan a chymeriadau eraill. Cawn olwg ar gymunedau gwahanol gyfnodau, cawn rannu llawenydd a dagrau, rhannu mwynhad trysori’r cof a phoen colli cof, ond fe welwn hefyd surni methu anghofio.’ 

Ni ŵyr yn union o le ddaeth y syniad am y nofel ond ar un adeg bu’n byw mewn bwthyn digon tebyg i Tyddyn Bach, cartref y cymeriadau Iorwerth, Margaret a Bethan, ac Anti Glad cyn hynny. Ychwanega 
“Ond mae yna emyn sydd wedi creu penbleth i mi erioed. Mae addasiad Elfed o ‘Nefol Dad mae eto’n nosi’ yn cloi drwy ddweud ‘wedi maddau ac anghofio anwireddau f’oes i gyd’ ond nid rhywbeth ry’ch chi’n ei wneud yn fwriadol ydi anghofio – mae’r cof yn fwy mympwyol na hynny a stori am y cof ydi hon yn y diwedd, stori am anghofio a methu anghofio.”