Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi hunangofiant un o arloeswyr pennaf y Gymraeg

Y mis hwn cyhoeddir hunangofiant un sydd wedi bod wrth galon rhai o’r datblygiadau a’r penderfyniadau pwysicaf yn hanes y diwylliant Cymraeg. Gwasg y Lolfa sy’n cyhoeddi Dwi isio bod yn..., hunangofiant y canwr, darlledwr a’r dyn busnes Huw Jones.

 

Meddai Dylan Iorwerth am y gyfrol: ‘O hanesion roc a rôl i helpu creu S4C ac wedyn brwydro i’w hachub, mae hon yn stori am arloesi ac arwain yn enw’r Gymraeg a’r cyfan wedi’i ddweud efo craffter a thegwch nodweddiadol.’ Ac yng ngeiriau Griff Lynch: ‘Mae cyfraniad Huw Jones i’r diwydiant pop Cymraeg yn amhrisiadwy, ond mae’r llyfr hwn yn dipyn mwy na hynny. Mae’n llawn straeon difyr am Gymro arloesol, mentrus ac eang ei orwelion.’

 

Yn Dwi isio bod yn..., mae Huw Jones yn cofio’n ôl i’w fagwraeth yng Nghaerdydd, i astudio’n Rhydychen a chyflwyno Disc a Dawn, a’i benderfyniad i symud i fyw i Landwrog. Mae’n hel atgofion am rôl y gân yn ei fywyd – o ryddhau recordiau i sefydlu cwmni Sain, gan groniclo’r methiannau a’r llwyddiannau ar hyd y blynyddoedd. 

 

Mynegir barn yn ddi-flewyn-ar-dafod am weithio ym myd teledu ac adroddir straeon am gychwyn Teledu’r Tir Glas a Barcud, ac yna, ei waith fel Prif Weithredwr S4C a Chadeirydd y sianel maes o law, a hynny mewn cyfnodau heriol i’r byd teledu. Ochr yn ochr â golwg ar feddwl y dyn preifat y tu ôl i’r wyneb cyhoeddusceir yma ddarlun byw o dalp o fywyd Cymru ac o hanes diweddar yr iaith Gymraeg.

 

Meddai Huw Jones: ‘Ar ôl i ’nghyfnod fel Cadeirydd S4C ddod i ben ym mis Medi 2019, roeddwn i’n teimlo mai dyma’r amser iawn i grwydro’n ôl dros y degawdau a sylwi ar y cerrig milltir ar hyd y daith. Roeddwn i wedi cychwyn rhoi’r stori at ei gilydd bob yn dipyn pan ddaeth y cyfnod clo a sicrhau na fyddai prinder amser yn esgus rhag gorffen y gwaith.’

 

Yn ogystal â chyhoeddi cyfrol, yn sgil cydweithio rhwng y Lolfa a chwmni recordiau Sain, bydd llyfr llafar (audiobook) yn cael ei gyhoeddi. Mae’r hunangofiant wedi ei leisio gan yr awdur ei hun, ac ochr yn ochr â straeon ryfeddol ei fywyd, bydd modd clywed rhai o’i ganeuon.

 

Meddai Lefi Gruffudd, pennaeth golygyddol Y Lolfa:

“Bu’n wych gallu cydweithio gydag awdur mor arloesol, a chyhoeddi llyfr llafar Cymraeg i gyd-fynd â llyfr. Cwbl addas hefyd i Huw Jones allu recordio’r llyfr yn stiwdio Sain nepell o’i gartref yn Llandwrog. Edrychwn ymlaen at weld y derbyniad ddaw i’r ddau fersiwn o’r llyfr ardderchog a hynod ddarllenadwy a gwrandadwy yma.”

 

Canwr, darlledwr a dyn busnes yw Huw Jones. Daeth yn ffigwr amlwg yng ngherddoriaeth Cymru yn y 1960au gyda’i gân brotest Dŵr. Roedd yn un o sefydlwyr Cwmni Recordiau Sain ac yn reolwr-gyfarwyddwr y cwmni hyd at 1981. Cyd-sefydlodd un o’r cwmnïau teledu annibynnol cyntaf, Teledu’r Tir Glas a’r cwmni adnoddau Barcud. Roedd yn brif weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005 a daeth yn gadeirydd Awdurdod S4C ym Mehefin 2011 hyd Medi 2019.