Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi hunangofiant 'trysor cenedlaethol'

Mae'r enwog Dai Jones Llanilar yn cyhoeddi ei hunangofiant yr wythnos hon fydd yn olrhain ei hanes dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Bydd Tra Bo Dai yn dilyn hynt a helynt gyrfa Dai Jones dros yr ugain mlynedd diwethaf, fel ffarmwr, cyflwynydd a darlledwr mwyaf poblogaidd Cymru.

Cydysgrifenwyd gyda'i gyfaill mawr, Lyn Ebenezer.

Yn ffermwr, cyflwynydd teledu a radio ar raglenni megis Cefn Gwlad neu'r Sioe Fawr, Dai Jones yw un o gymeriadau mwyaf poblogaidd ac adnabyddus cefn gwlad Cymru.

Ei lyfr cyntaf oedd un o'r llyfrau mwyaf poblogaidd yn y degawdau diwethaf gan werthu dros 10,000 o gopiau ac mae ei raglenni teledu a radio yn parhau i fod yn boblogaidd tu hwnt.

Mae Cefn Gwlad, a'i raglen radio, Ar Eich Cais, yr un mor boblogaidd ag erioed, a Dai yn ei elfen yn cyflwyno'r ddwy raglen. Cawn wybod mwy am y cymeriadau ac am sawl tro trwstan a ddigwyddodd yn ystod ffilmio'r rhaglenni teledu.

Oherwydd ei waith fel cyflwynydd a'i gyfraniad i fyd amaeth, mae Dai wedi derbyn nifer o anrhydeddau dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys Cymrodoriaeth BAFTA Cymru, a'i wneud yn Athro yn y Celfyddydau gan Brifysgol Cymru.

Ond yr anrhydedd fwyaf iddo oedd cael bod yn Llywydd Sioe'r Cardis yn 2010.

Meddai, 'Rwy wedi mwynhau bron bob eiliad o 'mywyd. Ond ffermwr ydw i ac mae gen i ychydig mwy o amser y dyddiau hyn i fwynhau'r pethe sy'n agos at fy nghalon.'

'Ond dyw perfformio ar lwyfan neu ar sgrin yng nghwmni, neu o flaen cymeriadau, yn ddim ond estyniad o'r hyn a wnawn i pan oeddwn i'n blentyn.'

Ond er yr holl enwogrwydd a phoblogrwydd, mae ei draed ar y ddaear.

'Pobol sydd wedi bod yn bwysig i fi erioed. Yn ddaearyddol, fe grwydrais ar draws y byd ond yn ysbrydol, wnes i erioed adael y fro,' meddai.

'Ble bynnag y bues i, ac i ble bynnag yr af, yn ôl wna i ddod. Chwedl Dafydd Iwan, 'Yma mae nghalon, yma mae nghân'.'

Ond nid oes terfyn ar ei weithgareddau,

'Dwi ddim yn mynd i fod yn brin iawn o bethe i'w gwneud. Rhyw newid mae'r gweithgareddau, nid diflannu neu grebachu,' meddai.

'Rwy bellach wedi cyrraedd 73 oed ac yn dal i fynd. Neu'n 'dal i geibo', fel y dywedir yn yr ardal hon," ychwanegodd Dai. 'Mae'r Hollalluog wedi bod yn eithriadol o hael wrtha i. Yn un peth, fe ganiataodd i fi iechyd reit dda. Rwy cystal fy iechyd nawr ag y bues i erioed.'

'Yn bwysicach i bob dyn a menyw yn y byd yma na bod yn filiwnydd yw cael iechyd, a chael cyfle i'w fwynhau. Yn wir, petai mwynhad yn arian, fe fyddwn innau'n filiwnydd.'