Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi gohebiaeth tri Penyberth am y tro cyntaf

A hithau’n 85 mlynedd ers carcharu Valentine, D.J. a Saunders am losgi’r ysgol fomio, dyma ddadlennu llythyrau personol y tri at ei gilydd am y tro cyntaf. Mewn llyfr newydd sy’n dwyn y teitl Annwyl Val, sy’n cynnwys gohebiaeth o ddiwedd yr 1920au hyd yr 1980au, cawn fewnwelediad ar y berthynas agos oedd rhyngddynt, ond hefyd yr anghytuno a’r dadlau ynglŷn â chenedlaetholdeb a Phlaid Cymru.

Un o’r pethau a ddaw i’r amlwg yw anfodlonrwydd cynyddol Saunders Lewis gyda chyfeiriad Plaid Cymru. Er mai ef ei hun oedd ei phrif sefydlydd, ac iddo fod yn Llywydd arni am bron i bymtheg mlynedd, daw yn glir ei fod wedi ei ddadrithio wrth weld y blaid yn cefnu ar ei gweledigaeth wreiddiol.

Erbyn yr 1960au roedd wedi llwyr anobeithio. Meddai: “rhyw blaid Sosialaidd gyda chwt o bolisi Cymreig yw hi bellach... ac yn credu o ddifri y daw hunan-lywodraeth i Gymru drwy San Steffan...”. Mewn llythyr arall mae’n dweud fod “Plaid Cymru yn mynd o ddrwg i waeth...yn rhoi parchusrwydd a phoblogrwydd di-gost a di-aberth o flaen pob dim...”.

Yn y llythyrau hyn, ceir pob math o sylwadau gwleidyddol a phersonol sy’n rhoi golwg eithriadol ddiddorol ar hanes y mudiad cenedlaethol gan dri o’i harwyr mwyaf blaenllaw. Amlygir aberth ac angerdd y tri dros eu gwlad, a hefyd yr effaith a gafodd y profiad o gael eu carcharu arnynt, a hwythau yng nghanol gohebiaeth gyson ynglŷn â llosgi’r ysgol fomio a’r achosion llys a ddilynodd.

Casglwyd y llythyrau ynghyd gan Emyr Hywel – awdur ac ymchwilydd a fu farw yn 2018, yn fuan ar ôl cwblhau’r gwaith ar gyfer y gyfrol hon. Bu’n brifathro Ysgol Tre-groes ac ysgrifennodd gofiant D.J. Williams yn ogystal â bod yn olygydd ar gyfrol arall o lythyrau, Annwyl D.J.