Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi cyfrol olaf y diweddar Ioan Roberts

Flynyddoedd yn ôl, gofynnodd y Cylch Catholig i’r diweddar Ioan Roberts ysgrifennu hanes y Cylch o’i dechreuad a’r mis hwn mae ffrwyth ei waith, Gwinllan a Roddwyd – Hanes Y Cylch Catholig yn cael ei gyhoeddi gan Wasg y Lolfa.

Dyma’r gyfrol olaf i Ioan Roberts ei hysgrifennu cyn ei farw ym mis Rhagfyr 2019. Meddai Edwin Regan, Esgob Emeritws: ‘Wrth iddo weithio’n drwyadl ar Hanes Y Cylch Catholig am flynyddoedd, roedd hi’n ergyd i ni fel Cylch, ac, wrth gwrs, i’w wraig Alwena a’u teulu a’u ffrindiau oll, glywed bod yr hynod alluog a dawnus Ioan Roberts wedi marw, heb rybudd, bedwar diwrnod ar ôl y Nadolig 2019. Heb ei allu ef, ni fyddai gan y Cylch lyfr sy’n hawdd ei ddarllen ac sy’n dangos cymeriad byw yr holl bobl sydd wedi ymrwymo i ddatgan eu Cymreictod yn y byd Catholig.’

Mae’r gyfrol yn cloriannu hanes bregus ac arwrol cymdeithas Y Cylch Catholig o’i dechreuad hyd heddiw. Ceir hanesion am unigolion blaenllaw a disglair a fu wrthi gyda’r Cylch fel R. O. F. Wynne, John Daniel ac wrth gwrs, Saunders Lewis. Roedd Saunders yno o’r dechrau’n deg, a gwelir nad yw ei gysgod wedi diflannu’n llwyr oddi ar hynny. Dangosir fod ymwneud Saunders â’r Cylch, fel ei ymwneud â nifer o gyrff, yn ysbrydoliaeth i lawer ond yn destun ychydig o anesmwythyd i eraill.

Amlygir yr agweddau oedd gan rai at y Cylch – yn gefnogaeth ac yn wrthwynebiad, a hynny o du’r cyhoedd, yr esgobion, a’r gymuned Gatholig Wyddelig. Olrheinir rhai o’r lleoliadau gwahanol sydd wedi chwarae rhan amlwg yn hanes y bywyd Catholig Cymraeg a chloriannir digwyddiadau a theithiau’r Cylch yn ogystal â chyfraniadau’r aelodau.

Dywed yr Esgob Edwin Regan: ‘Edrychaf ar yr hanes hwn fel darlun o’r aelodau a ddaeth â’r Cylch yn fyw ac sy’n dal i wneud hynny. Roedd cyfraniad pob un yn unigryw a phob un wedi datblygu’r Cylch yn ei ffordd ei hun dros y blynyddoedd... Mae’r llyfr hwn yn dangos gweithredoedd ei ddisgyblion yn ystod bron i ganrif o waith i adleisio Actau’r Apostolion er mwyn i “bob un clywed yn iaith ei hun”.’