Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyhoeddi astudiaeth gan Merêd ym mlwyddyn canmlwyddiant ei eni

Ffrwyth blynyddoedd o astudio dyfal ar y traddodiad canu gwerin Cymraeg a gwblhawyd ychydig cyn marw Meredydd Evans yn 2015 yw Serch a’i Helyntion – Dadansoddiad o Ganeuon Gwerin Cymraeg (Y Lolfa).

 

Meddai Rhidian Griffiths, golygydd y gyfrol:

‘Mae’n gyd-ddigwyddiad hapus iawn bod y gyfrol yma yn cael ei chyhoeddi ym mlwyddyn canmlwyddiant Merêd. Er ein bod ar ein colled o beidio â chael rhagor o astudiaethau tebyg o’i law, mae’n wych o beth ei fod yn dal i siarad â ni a’n haddysgu trwy’r gyfrol hon.’

 

Yn rhan o waddol y caneuon gwerin a adawyd inni yng Nghymru, mae nifer sylweddol yn rhai sy’n ymwneud mewn rhyw ffordd neu’i gilydd â serch. O ystyried yn weddol fanwl y prif gasgliadau a argraffwyd hyd yma, mae cymaint â 166 o ganeuon. Yn y gyfrol hon, ymdrinnir a dadansoddir y caneuon hynny. Ystyrir eu mydr, yr alaw, y geiriau a chefndir a hanes y caneuon yn fwy cyffredinol. Lle mae rhai caneuon yn canu clodydd gwrthrych cariad, mae eraill yn sôn am golled a thor calon, ond nid hiraeth a siom yw unig themâu’r caneuon hyn. Mae rhai, megis ‘Cân y cwcwallt’ yn llawn hwyl a sbri, mewn gwrthgyferbyniad llwyr â thristwch eraill, megis ‘Mynwent eglwys’.

 

Meddai Rhidian Griffiths:

 

‘Yn dilyn cyhoeddi Hela’r Hen Ganeuon yn 2009, cyfrol oedd yn olrhain hanes casglu caneuon gwerin Cymraeg, roedd Merêd wedi bwriadu llunio cyfres o astudiaethau ar wahanol themâu yn y caneuon gwerin, ond dim ond y gyfrol hon oedd wedi’i chwblhau adeg ei farw. Merch Merêd, Luned, ddaeth o hyd i’r testun ar ei gyfrifiadur, ac fe’i trosglwyddodd i ofal pwyllgor gwaith Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Er bod y testun yn gyflawn, roedd angen ychwanegu’r cyfeiriadau a threfnu’r enghreifftiau cerddorol, a dyna fûm i yn ei wneud.’

 

Yr amrywiaeth eang yn y caneuon hyn yw prif thema Serch a’i Helyntion. Dyma drysor o astudiaeth a fydd yn apelio at bawb sydd â diddordeb yn y traddodiad gwerin Cymraeg.

 

Magwyd Dr Meredydd Evans (1919–2015) yn Nhanygrisiau. Ar ôl gadael yr ysgol yn 14 oed aeth i weithio fel siopwr, cyn parhau â’i addysg yng Ngholeg Clwyd, Y Rhyl a Choleg Prifysgol Bangor. Cafodd swydd wedyn yng Ngholeg Harlech, yna bu’n gweithio fel newyddiadurwr ar Y Cymro, yn darlithio ym Mhrifysgol Princeton, U.D.A. ac yna yn yr Adran Efrydiau Allanol ym Mangor. Bu’n Bennaeth Adloniant Ysgafn gyda’r B.B.C. cyn dychwelyd i Addysg Oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd. Gyda’i briod Phyllis bu’n flaenllaw ym myd adloniant Cymru, gan wneud cyfraniad aruthrol i’r traddodiad gwerin, yr iaith Gymraeg a holl ddiwylliant y genedl.