Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol yn torri tabŵ galar a chynnig cymorth ymdopi yn y Gymraeg

Mae cyfrol a gyhoeddir yr wythnos hon yn ceisio torri'r tabŵ sydd o amgylch galar gan gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i'r rhai sydd yn ymdopi ag ef.

Mae Galar a Fi yn cynnwys ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy'r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar – a'r ffordd y gwnaethon nhw ddelio â'u galar. Mae'r ymatebion i galar yn y gyfrol yn amrywio o gerddi, llythyron, dyddiadur, ysgrifau i straeon byrion.

Golygwyd y gyfrol gan Esyllt Maelor, sydd wedi profi galar ei hun.

Daw'r llyfr ar ôl cyhoeddi Gyrru drwy Storom (y Lolfa) yn 2015 – cyfrol oedd yn cyflwyno profiadau dirdynnol o fyw trwy salwch meddwl.

'Yn ei rhagair i'r gyfrol honno nododd Alaw Griffiths iddi fethu dod o hyd i wefannau a llyfrau gyda gwybodaeth ddigonol am salwch meddwl yn y Gymraeg. A does dim byd bron ar gael yn y Gymraeg am alar chwaith,' eglurodd Esyllt. 'Os yw darllen yn un ffordd o gwnsela, roeddwn am ddarllen yn Gymraeg. Cwestiynau cwnsela oedden nhw, a minnau eisiau atebion, eisiau gwybod.'

'Fel gyda salwch meddwl, mae tabŵ yn perthyn i alar hefyd. Ymgais i roi llais i'r di-lais yw'r gyfrol hon,' meddai Esyllt.

Mae amrywiaeth eang yn y cyfraniadau, a sawl person ifanc yn eu mysg – Luned Rhys a ysgrifennodd gerdd am golli ei thad; Llio Maddocks a ysgrifennodd stori fer am golli ffrind; Sara Maredudd Jones sy'n nodi pa mor bwysig yw siarad ar ôl colli rhywun annwyl; a Manon Gravell a ysgrifennodd ddyddiadur o'r gwyliau olaf yn Sbaen gyda'i thad, Ray Gravell.

Ceir Branwen Haf Williams yn ysgrifennu llythyr at ei thad, Derek, yr awdur Sharon Marie Jones yn siarad â'i mab Ned, Nia Gwyndaf yn siarad â'i gŵr, Eifion Gwynne, Mair Tomos Ifans sy'n gweld galaru fel 'bod mewn twnnel' a hiraeth ingol Cris Dafis. Y cyfranwyr eraill yw Dafydd John Pritchard, Arthur Roberts, Iola Lloyd Owen, Manon Steffan Ros a Gareth Roberts.

'Rwy'n hynod ddiolchgar i'r awduron am eu parodrwydd i rannu a thrwy wneud hynny agor drysau sawl stafell ddirgel i ni fel darllenwyr. Ond os cyfyd yr angen, gobeithio y bydd Galar a Fi o gymorth i chi bryd hynny,' ychwanegodd Esyllt. 'Pryd bynnag y byddwch yn troi ato bydd un peth yn aros gyda chi rhwng gwewyr a gofid y tudalennau. Cariad yw hwnnw. A hwnnw'n gariad dwfn, amhrisiadwy.'