Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol yn darlunio hen Gymru mewn lliw am y tro cyntaf

Mae gwasg Y Lolfa wedi atgynhyrchu detholiad o luniau du a gwyn i fod yn rai lliw llawn, a hynny mewn llyfr am y tro cyntaf yng Nghymru. Llwyddwyd i ail-greu’r gorffennol fel ag yr oedd, neu mor agos â phosib at hynny, gyda lluniau o gasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r llyfr o’r enw Cymru Ddoe Mewn Lliw a Llun yn ddathliad unigryw o fywyd gwledig Cymru yn bennaf, o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, gyda’r lluniau wedi eu dethol gan Gwyn Jenkins a’u lliwio gan y dylunydd Richard Huw Pritchard.

Meddai’r golygydd, Gwyn Jenkins : “Yn y gyfrol hon, proseswyd y delweddau du a gwyn gan feddalwedd MyHeritage a oedd yn lliwio’r lluniau yn rhannol ac yna defnyddiwyd meddalwedd Photoshop i gwblhau’r lliwio gan ddylunydd medrus. Ni allwn fod yn sicr fod y lliwiau’n gywir ym mhob achos ond mae’r meddalwedd, y golygydd a’r dylunydd wedi gwneud ‘dyfaliadau deallus’ ar sail y wybodaeth sydd ar gael o’r cyfnod. Y canlyniad yw delweddau sydd, gobeithio, yn denu diddordeb ac, i raddau, yn dod â hanes yn fyw.”

Mae llyfrau o’r fath wedi eu cyhoeddi mewn gwledydd eraill, gyda Old Ireland in Colour, er enghraifft, yn llwyddiant mawr, ond dyma’r tro cyntaf i’r fath ymgais gael ei wneud yng Nghymru. Mae’r golygydd yn cydnabod na fydd pawb yn cael eu plesio gyda’r broses.

Meddai: “Bydd rhai, efallai, yn anfodlon â’r ymyrraeth ar y lluniau gwreiddiol ond mae’r ffotograffau

hynny yn dal ar gael i’w gweld ar wefan y Llyfrgell neu mewn llyfrau eraill. Beth bynnag, yn y pen draw, ‘adlewyrchiad o realiti’ yw ffotograff ac mae’r ffotograffydd erioed wedi trin ac addasu ffotograff yn yr ystafell dywyll neu, erbyn hyn, yn ddigidol. Mae lliwio yn ein galluogi i ddangos, i raddau helaeth, yr hyn y bu ffotograffydd y cyfnod yn ei weld â’i lygaid ei hun wrth ddal y foment trwy viewfinder ei gamera.”

Mae Cymru Ddoe Mewn Lliw a Llun yn cynnwys lluniau o bob rhan o Gymru a phobl o bob cefndir yn cynnwys amaethwyr a chwarelwyr, siopwyr a helwyr, protestwyr ac eisteddfodwyr wedi eu tynnu gan rai o ffotograffwyr amlycaf eu hoes. Mae yma hefyd luniau o rai o enwogion y cyfnod, o Cranogwen i Cynan, o Ceiriog i Aneurin Bevan. Ceir hefyd gapsiynau manwl, sy’n storïau ynddynt eu hunain, yn rhoi cyd-destun difyr o bapurau’r wasg yn y cyfnod.

 Mae Cymru Ddoe Mewn Lliw a Llun ar werth nawr ar wefan y Lolfa (£19.99)