Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol yn dadlennu gwybodaeth newydd am enw ac arweinydd cyntaf Merched Becca

Er bod sawl cyfrol Saesneg o safon wedi eu cyhoeddi ar helynt y Becca, dim ond un gyfrol fer yn y Gymraeg oedd ar gael – tan nawr. Mae Ar Drywydd Twm Carnabwth – Hanes Dechrau Gwrthryfel Becca yn gofnod dadlennol ac astudiaeth fanwl o fywyd Thomas Rees (Twm Carnabwth), am y dylanwadau fu arno, am hanes a naws y fro, ac am yr holl anghyfiawnderau a’r tlodi a arweiniodd at y terfysgoedd yng nghanol y 19eg ganrif.

Mae llyfr newydd gan Hefin Wyn am hanes Merched Becca yn profi unwaith ac am byth nad oedd gan yr adnod honno o Lyfr Genesis y cyfeirir ati byth a hefyd ddim oll i’w wneud ag enwi Mudiad y Becca. Ceir esboniad llawer symlach ac ymarferol, sef bod dynes fawr o gorff oedd yn byw gerllaw wedi benthyg ei dillad isaf i Twm – Rebecca Phillips. Dangosir y dystiolaeth ar sail gwybodaeth a ganfuwyd yn y Cyfrifiad cyntaf hwnnw yn 1841. Cyflwynwyd tipyn o wybodaeth newydd ar sail ffynonellau Cymraeg eu hiaith nad oedd haneswyr cynt wedi'u canfod. 

Meddai’r awdur Hefin Wyn:
“Hyderaf y gwêl y darllenydd fod Twm Carnabwth er ei fynych gamweddau hefyd yn arwr ac yn arweinydd yr oedd ar Gymru ei fawr angen yn ei gyfnod.”

Datgelir ffeithiau am y tro cyntaf erioed, erthyglau ac ysgrifau o’r cyfnod, dyfyniadau, ynghyd â cherddi a chaneuon am arweinydd cyntaf y Becca. Prif nod Hefin Wyn wrth lunio’r gyfrol oedd datgelu mwy am Twm Carnabwth ac i gyfleu naws y cyfnod mewn arddull hygyrch. Dyma gyfrol bwysig, nid yn unig am unigolyn canolog yn hanes Cymru, ond am sefyllfa’r oes a bywyd y trigolion yng nghefn gwlad gorllewin Cymru.

Meddai Glen George yn ei gyflwyniad:
“Mae stori’r Becca bellach yn rhan o fytholeg y Preseli ond ychydig a wyddys am y prif actorion… Hyderaf y bydd cyhoeddi’r gyfrol hon yn fodd i chwalu tipyn o’r niwl sy’n dal i chwilio o amgylch bwthyn Carnabwth” 

Ariannwyd y prosiect gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri. Yn rhan o’r prosiect hefyd bydd bwrdd dehongli yn cael ei osod ar ben feidr Glynsaithmaen. Y gobaith yw bydd yna waddol wrth i weithgareddau megis teithiau cerdded gael eu trefnu i gadw’r cof am Helynt y Becca yn lleol ar gof a chadw.