Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol sy'n cynnig gobaith mewn cyfnod tywyll

Yn rhan o gynllun Darllen yn Well, cyhoeddir cyfieithiad i’r gwerthwr gorau, Reasons to Stay Alive gan yr awdur uchel ei barch a hynod boblogaidd, Matt Haig. Mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw yn lyfr teimladwy, doniol a llawen sydd yn ceisio lleihau’r stigma sydd ynghlwm ag iechyd meddwl ac yn ceisio argyhoeddi pobl mai “nid o waelod y cwm y mae’r olygfa orau.”

“Roeddwn i eisiau ysgrifennu llyfr am fy mhrofiad yn syth wedi i mi sylweddoli bod iselder wedi palu celwyddau am fy nyfodol, ac er mwyn mynd i’r afael ag iselder a gorbryder unwaith ac am byth,” meddai Matt Haig. Mae Rhesymau Dros Aros yn Fyw yn stori wir am sut y dysgodd Matt Haig i fyw, gan oresgyn iselder a fu bron â'i orchfygu. Mae’r llyfr yn fwy na chofiant – mae’n cynnwys pob math o gynghorion a chymorth, o ‘Gysylltiadau defnyddiol’ i restr ‘Sut i fyw (deugain pwt o gyngor sydd o gymorth ond nad ydw i’n eu dilyn bob tro)’ ac mae’n llyfr positif sydd yn annog rhywun i wneud y gorau o’i amser ar y ddaear.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r Asiantaeth Darllen (The Reading Agency) a llyfrgelloedd i sicrhau bod y cynllun Darllen yn Well ar gael ledled Cymru. Fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer dementia yn 2018, a llynedd fe lansiwyd Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn ar gyfer iechyd meddwl. Nod Darllen yn Well yw i roi cymorth i bobl ddeall a rheoli eu hiechyd, gan gynghori sut i fyw yn dda a chynghori teulu a gofalwyr hefyd. Mae’r llyfrau i gyd wedi’u cymeradwyo gan weithwyr yn y maes iechyd. Mae’r Asiantaeth Darllen yn gweithio ar y cyd gyda Chyngor Llyfrau Cymru i sicrhau bod y llyfrau ar y rhestr ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg am y tro cyntaf.

Meddai Helgard Krause, Prif Weithredwr Cyngor Llyfrau Cymru, “Mewn cyfnod o drafod cynyddol am broblemau iechyd meddwl, rydyn ni yn y Cyngor Llyfrau yn falch iawn o fod yn gweithio gyda’r Asiantaeth Ddarllen a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cynllun Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgripsiwn yng Nghymru. Mae pob un o’r llyfrau hunangymorth yn y gyfres hon wedi’u cymeradwyo gan arbenigwyr iechyd ac mae sicrhau bod deunydd safonol o’r fath hefyd ar gael yn y Gymraeg yn hollbwysig.”

Bydd mwy o gyfrolau’n cael eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf, gyda’r llyfrau yn trafod pynciau pwysig fel ymwybyddiaeth ofalgar, galar, gorbryder ac anhwylder bwyta. Am fwy o wybodaeth, ewch i www.reading-well.org.uk/cymru