Cyfrol i ddathlu carreg filltir
'Cael fy mhen-blwydd yn drigain oed oedd cychwyn y syniad, a meddwl am fy chwaer a fu farw yn bum deg saith oed yn 2002' eglurodd yr awdur Mihangel Morgan, 'Beth oeddwn i wed'i wneud gyda'r amser ychwanegol hyn, fel petai, a gefais i?'
Caiff y gyfrol hefyd ei chyflwyno i'r Lolfa ar ei phen-blwydd yn hanner cant, 'gyda diolch ac edmygedd'.
Chwe deg un o straeon byrion a geir yn 60 gan Mihangel Morgan, a gyhoeddir yr wythnos hon. Mae pob stori yn dynodi munud oddi fewn awr rhwng 11 a 12 o'r gloch un bore ar stryd fawr mewn cymuned tref ddychmygol yng Nghymru, nid yn annhebyg i Aberystwyth.
'Bu dymuno archwilio posibiliadau y stori fer fer yn ffactor arall yng ngenesis y gwaith' ychwanegodd Mihangel.
Fel nofelau a chyfrolau eraill Mihangel Morgan, ceir yma amrywiaeth fyw o gymeriadau gyda llwybrau rhai yn croesi ei gilydd. Ceir ddynes ddigartref sy'n gofyn a yw'n amser symud ymlaen, Jewe£a a'i henw yn ddatganiad i'r byd o'i gwerth a'i harddwch a Howard a'i chwilen am Titanic: cyn i'r llong enwog daro'r mynydd iâ, a oedd yna deimlad yn yr awyr fel a geir o flaen trychineb?
Ac, ar ddiwrnod ei ben-blwydd, mae Orig Owen yn cadw apwyntiad yn yr optegydd yn y dre, ac yn boenus o ymwybodol o'r celloedd cancr sy'n cynyddu yn ei gorff. Wrth gyrraedd ei chwedeg dyw e ddim yn siŵr a ydyw erioed wedi deall ei hunan, ac mae'n ffeindio ei hun yn gofyn am y tro cyntaf, pwy wyf i? Stori Orig sy'n dechrau a gorffen y casgliad ar yr awr, cyn y digwyddiad ar y diwedd sy'n uno'r holl gymeriadau.
Disgrifiodd Dafydd Morgan Lewis Mihangel Morgan fel 'y blaenaf o'r awduron rhyddiaith sydd yn ysgrifennu yn y Gymraeg heddiw'.
'Rwyf yn darllen Mihangel Morgan er mwyn cofio beth yw byw' ychwanegodd golygydd O'r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands.
Yn un o awduron mwyaf poblogaidd a gwreiddiol Cymru, mae Mihangel Morgan bellach wedi cyhoeddi wyth cyfrol o straeon byrion ac amryw o nofelau. Dyma ei gyfrol gyntaf o ffuglen ers cyhoeddi Kate Roberts a'r Ystlum, a dirgelion eraill yn 2012. Cafodd ei nofel Pantglas ei henwebu am wobr Llyfr y Flwyddyn 2012. Bu'n ddarlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am flynyddoedd cyn ymddeol. Mae bellach yn byw yn Aberdâr lle cafodd ei fagu.