Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol gyntaf Fflur Dafydd ers 10 mlynedd

Yr wythnos hon cyhoeddir llyfr cyntaf Fflur Dafydd yn y Gymraeg ers deng mlynedd. Mae Lloerganiadau yn gyfrol o atgofion personol am blentyndod ac arddegau yr awdures yn ardal Ceredigion dan olau’r lloer, ei chyfrol Gymraeg gyntaf ers cyhoeddi Awr y Locustiaid yn 2010. Datblygwyd ei nofel Y Llyfrgell (2009) fel ffilm boblogaidd yn 2016.

Meddai Fflur Dafydd:

“Cyfrol o ysgrifau personol yw hi – nid hunangofiant fel y cyfryw, ond yn hytrach lloer-gofiant – cyfnodau mewn tywyllwch neu olau leuad sy’n gefnlen i bob un profiad neu stori. Mae’n amrywio o drafod profiadau plentyn ar goll mewn tywyllwch a merch yn ei harddegau yn mynd ar antur gyda’i chariad i mam flinedig ar ei thraed yn bwydo trwy’r nos. Mae ’na hefyd ysgrifau am ofodwragedd, am ffilmiau, am bartïon gwyllt ac am gyfeillgarwch. Nid oes llawer o lyfrau ffeithiol greadigol yn y Gymraeg am fywydau cyffredin menywod a’u perthnasau â phobl eraill.

“Mae fy rhieni wedi symud o Landysul bellach, felly roedd hi’n teimlo fel diwedd cyfnod ac roeddwn yn teimlo rhyw ysfa i gofnodi hynny. Rhywsut fe blethodd fy ymchwil am y lloer (ar gyfer sioe Eisteddfod Genedlaethol Tregaron 2020) gyda fy atgofion personol, gan ganiatáu i mi edrych ar gyfnodau gwahanol yn fy mywyd i trwy gyfrwng cyfnodau’r lloer. Mae’r syniad o gofnodi fy mhlentyndod wedi bod yng nghefn fy meddwl ers blynyddoedd.”

Roedd Fflur Dafydd hefyd wedi ysgrifennu’r sioe ‘Lloergan’ ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron – am ddynes o Dregaron yn mynd i’r lleuad yn 2050. Nid yw’r llyfr yma yr un peth â’r sioe o gwbl ond mae’n sicr yn gosod cyd-destun. Yn sgil cyfyngiadau diogelwch y Coronafeirws, gohiriwyd yr Eisteddfod ac felly’r sioe, gyda’r gobaith y bydd y ddau yn digwydd blwyddyn nesaf.