Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol arloesol yn trafod dibyniaeth ar alcohol yn y Gymru Gymraeg

Yn ôl ymchwil gan Alcohol Change UK mae chwarter oedolion Cymru wedi cynyddu faint o alcohol maent yn ei yfed yn ystod cyfnod y Clo Mawr, gyda gwerthiant diodydd meddwol wedi neidio i fyny 31% yn ystod mis Mawrth eleni.

Mae’r llyfr newydd Un yn Ormod a olygwyd gan Angharad Griffiths yn un amserol felly ac yn gobeithio agor y drafodaeth o berthynas unigolion gydag alcohol ac yn cynnig cymorth drwy’r Gymraeg ar bwnc sensitif iawn.

Meddai’r golygydd Angharad Griffiths:

“Dydi bod yn gaeth i alcohol ddim yn rhywbeth du a gwyn. Y cwestiwn sydd angen ei ofyn ydi: nid ydi faint dwi’n ei yfed yn ormod, ond ydi faint dwi’n ei yfed yn fy neud i’n anhapus.”

Daeth Angharad Griffiths i’r amlwg ar ôl iddi rannu ei stori bersonol hi am stopio yfed alcohol.

“Mi nath alcoholiaeth ddwyn fy nghefnder a’m ffrind Gareth ‘Chef’ Williams yn 39 oed – ac mae’r gyfrol yma er cof amdano fe. Y mwya o straeon sobri sydd mas yna, mae’n rhoi gobaith i’r bobl sydd yn dal i ddiodde’ – neu’n dechrau sylweddoli bod alcohol yn achosi problemau yn ei bywydau,” meddai Angharad.

Gan ddilyn yr un fformat â nifer o lyfrau eraill y Lolfa ar iechyd – Gyrru drwy Storom, Galar a Fi, Byw yn fy Nghroen – a’r gyfrol Codi Llais am hawliau merched, mae’r gyfrol yn cynnwys amryw o arddulliau gan gynnwys ysgrifau, straeon byrion a deialog.

Ceir Rhagair gan Ffion Dafis sydd wedi ysgrifennu am ei phrofiadau hi gydag alcohol yn ei chyfrol Syllu ar Walia’ (Y Lolfa, 2017). Meddai Ffion:

“Rwy mor falch gweld llyfr yn trafod alcohol yn y Gymraeg. Mae alcohol yn rhan greiddiol o’n cymdeithas ni yma yng Nghymru ac mae o’n cwmpas ni ym mhob man. Yn wir, mae’n cael ei annog o oedran cynnar iawn, felly tydi hi’n ddim syndod bod cymaint yn gaeth.”

Mae ymgyrchoedd diweddar blynyddol fel Sober October a Sober January wedi codi ymwybyddiaeth pobl am faint maen nhw’n ei yfed ond nid peth hawdd ydi dinoethi'r pwnc pan mae stigma’n dal i fodoli.

“Mae angen dewrder eithriadol i ysgrifennu am y profiadau yma ac rwy’n falch iawn o’r holl gyfranwyr am fod yn fodlon siarad yn agored. I feddwl faint mae’r Cymry yn yfed does dim llawer o lyfrau yn y Gymraeg yn delio gyda hyn!” meddai Angharad Griffiths.

Rhestr o’r cyfranwyr:

Ffion Dafis; Angharad Griffiths, Derith Rhisiart, Guto Rhun, Wynford Ellis Owen, Iola Ynyr, Lloyd Jones, Owain Williams, Rhiannon Boyle, Iwan ‘Topper’ Evans, Carol Hardy, Jon Gower, Neil ‘Maffia’ Williams, Elin Meredydd.