Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyfrol am alar yn y Gymraeg yn torri record

Mae cyfrol unigryw am alar wedi torri record am werthu allan brin fis ar ôl ei chyhoeddi'n wreiddiol.

Mae Galar a Fi yn cynnwys ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy'r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar – a'r ffordd y gwnaethon nhw ddelio â'u galar. Mae'r ymatebion yn y gyfrol yn amrywio o gerddi, llythyron, dyddiadur, ysgrifau i straeon byrion.

Fe aeth y gyfrol allan o brint ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ynys Môn ar ôl gwerthu dros fil o gopïau o fewn mis i'w chyhoeddi.

Mae hi bellach yn ôl mewn print ac meddai Meinir Wyn Edwards o wasg Y Lolfa fod yr ymateb wedi bod yn 'anhygoel'.

'Mae'r gyfrol wedi gwerthu'n anhygoel, sy'n profi bod angen cyfrolau sy'n trafod iechyd, yn enwedig iechyd meddwl, yn y Gymraeg,' meddai Meinir. 'Y neges sy'n cael ei hailadrodd dro ar ôl tro yn y gyfrol hon, ac yn Gyrru Drwy Storom a oedd yn ymdrin ag iselder, yw pa mor bwysig yw hi i siarad am emosiynau a theimladau.'

Golygwyd y gyfrol gan Esyllt Maelor, sydd wedi profi galar ei hun.

'Mae'r ymateb yn sicr yn dangos bod galw am gyfrol o'r fath. Dwi wedi clywed bod pobl sydd ddim yn arfer prynu llyfrau Cymraeg wedi prynu Galar a Fi.' meddai Esyllt Maelor, 'Rhai yn dweud iddyn nhw ddarllen y llyfr ar ei hyd a 'methu ei roi lawr' - eraill yn picio ati. Sawl un yn dweud fod y darllen yn anodd ond yn rhwydd'.

'Mae'r rhai sydd wedi cyfrannu i'r ddwy gyfrol wedi bod mor ddewr ac mor onest ac oherwydd hynny maen nhw'n ysbrydoli cymaint o bobol eraill,' ychwanegodd Meinir. 'Alla i ddim diolch digon iddyn nhw i gyd, nac i Esyllt Maelor, sydd yn berson arbennig iawn.'

Mae'r gyfrol yn ceisio torri'r tabŵ sydd o gwmpas galar gan gynnig cymorth drwy gyfrwng y Gymraeg i'r rhai sydd yn ceisio ymdopi.

'Yn ei rhagair i'r gyfrol Gyrru drwy Storom nododd Alaw Griffiths iddi fethu dod o hyd i wefannau a llyfrau gyda gwybodaeth ddigonol am salwch meddwl yn y Gymraeg. A does dim byd bron ar gael yn y Gymraeg am alar chwaith,' meddai Esyllt pan gafodd y gyfrol ei chyhoeddi gyntaf. 'Os yw darllen yn un ffordd o gwnsela, roeddwn am ddarllen yn Gymraeg. Cwestiynau cwnsela oedden nhw, a minnau eisiau atebion, eisiau gwybod.'

'Fel gyda salwch meddwl, mae tabŵ yn perthyn i alar hefyd. Ymgais i roi llais i'r di-lais yw'r gyfrol hon,' meddai Esyllt.

Mae amrywiaeth eang yn y cyfraniadau, a sawl person ifanc yn eu mysg – Luned Rhys a ysgrifennodd ar ôl colli ei thad; Llio Maddocks a ysgrifennodd stori fer am golli ffrind; Sara Maredudd Jones sy'n nodi pa mor bwysig yw siarad ar ôl colli rhywun annwyl; a Manon Gravell a ysgrifennodd ddyddiadur o'r gwyliau olaf yn Sbaen gyda'i thad, Ray Gravell.

Mae Branwen Haf Williams yn ysgrifennu llythyr at ei thad, Derek, yr awdur Sharon Marie Jones yn siarad â'i mab Ned, Nia Gwyndaf yn siarad â'i gŵr, Eifion Gwynne, Mair Tomos Ifans sy'n gweld galaru fel 'bod mewn twnnel' a hiraeth ingol Cris Dafis. Y cyfranwyr eraill yw Dafydd John Pritchard, Arthur Roberts, Iola Lloyd Owen, Manon Steffan Ros a Gareth Roberts.

Bydd noson i gydfynd â'r gyfrol yn cael ei chynnal yng nghanolfan Y Morlan yn Aberystwyth am 7 o'r gloch nos Fercher y 27 o Fedi dan arweiniad Esyllt Maelor a rhai o'r cyfranwyr.