Cyfrinach fawr Na, Nel!
Mae hi ar fin cyhoeddi llyfr newydd yn y gyfres Na, Nel! ac mae cyfrinachau yn chwarae rhan fawr. Mae un o'r cyfrinachau mor fawr, mae'n cynnwys y dyn ei hun Siôn Corn...
Na, Nel! – Shhh! fydd chweched llyfr Na, Nel! gan yr awdur Meleri Wyn James, sy'n byw yn Aberystwyth ac yn fam i ddwy o ferched. Mae pedwar llyfr stori yn y gyfres, yn ogystal â Ho, Ho! sef llyfr posau a jôcs i roi mewn hosan Nadolig a Dyddiadur Nel i annog plant i ymarfer eu sgwennu.
'Mae'n anodd credu mai dyma'r chweched llyfr,' meddai Meleri sydd hefyd yn olygydd i wasg y Lolfa, 'Pan sgrifennais i'r llyfr cyntaf yn haf 2014 do'n i ddim yn siwr sut fath o ymateb fyddai e'n cael. Roedd yna brinder o lyfrau gwreiddiol ar gyfer plant yr oed yma, sef rhwng 6 a 10 oed. Ond fe werthodd y llyfr cyntaf mas, ac mae'r ymateb wrth blant a rhieni wedi bod yn ffantastig.'
Mae tair stori yn y llyfr newydd. Yn ogystal â cheisio cadw cyfrinach, mae Nel yn dysgu i chwarae offeryn newydd ac yn llwyddo i greu sŵn annymunol iawn. Yn y drydedd stori mae Nel yn cynnig ei henw ar gyfer etholiad yn yr ysgol. Fel arfer, mae'r llyfr yn llawn o luniau bywiog yr artist John Lund.
'Mae Nel yn ddireidus ac mae ganddi jôcs gwych!' meddai Branwen Rhys, saith oed, sy'n byw yng Nghaerdydd. 'Mae Nel eisiau bod ar Cân i Gymru, dathlu'r Nadolig yn gynnar a bod yn Brif Weinidog. Mae'n caru'r Nadolig fel fi ac mae'n gwneud i mi chwerthin.'
Bydd y llyfr yn cael ei lansio yn Ffair Lyfrau'r Ysgol Gymraeg yn Aberystwyth ar y 23ain o Dachwedd.