Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyflwyno llyfr i un o gymwynaswyr mawr byd athroniaeth yng Nghymru

Gyda gwerthoedd rhyddfrydol o dan fygythiad mewn sawl rhan o’r gorllewin – o Brydain i America – mae’n anodd meddwl am bwnc athronyddol mwy cyfoes a pherthnasol i’w drafod mewn cyfrol. Prif ffocws Rheswm a Rhyddid, cyfrol newydd wedi’i olygu gan E. Gwynn Matthews, yw ymateb i’r Ymoleuad, y chwyldro syniadaethol a osododd sail ar gyfer gwerthoedd a gwleidyddiaeth y cyfnod modern ac sy’n sylfaen ddamcaniaethol i’r wladwriaeth ryddfrydol.

Cyflwynir y gyfrol gan aelodau Adran Athronyddol Cymdeithas Cyn-fyfyrywyr Prifysgol Cymru i’r Athro Emeritws Howard Williams fel arwydd o’u gwerthfawrogiad o’i gyfraniad sylweddol i athroniaeth wleidyddol ar raddfa ryngwladol ac i athronyddu yn Gymraeg yn arbennig.


Dyma’r wythfed gyfrol yn y gyfres ‘Astudiaethau Athronyddol’, cyfres sydd yn trafod themâu gwleidyddol a chymdeithasol o safbwynt nifer o athronwyr. Mae’r gyfres wedi apelio nid yn unig at athronwyr ond at bawb sydd â diddordeb mewn trafod syniadau.

Yn ogystal â thrafod syniadau athronwyr fel Kant, Hegel a Marx, meddylwyr a osododd fframwaith y drafodaeth fodern ar wleidyddiaeth, ceir trafodaeth ar feddylwyr cyfoes fel Fukuyama, Rawls, Adorno a Foucault.. Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn cynnwys hunaniaeth, cenedlaetholdeb a heddwch byd eang.

Mae’r gyfrol yn cynnwys y cyfieithiad Cymraeg cyntaf o un o ysgrifau pwysicaf Immanuel Kant – allwedd i syniadaeth Oes yr Ymoleuad, lle mae’n holi pwy mewn gwirionedd sydd yn oleuedig a beth mewn gwirionedd yw goleudigaeth.

Meddai Gwynn Matthews, golygydd y gyfrol:

“Mewn oes lle mae gwleidyddiaeth boblyddol ar gynnydd, ym Mhrydain, Ewrop ac America, mae gwir angen treiddio’n ddyfnach na’r sloganau arwynebol sy’n nodweddu cymaint o’r disgwrs gwleidyddol cyfoes.”