Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.

Cyflwyno clasur Gwenno Hywyn i gynulleidfa newydd

Mae’r Lolfa newydd ailgyhoeddi Cyfrinach Betsan Morgan, un o glasuron y diweddar Gwenno Hywyn. Gwelodd Cyfrinach Betsan Morgan, sy’n nofel am deithio mewn amser, olau dydd am y tro cyntaf yng Nghyfres Corryn a bu galw mawr am ailgyhoeddi’r gyfrol o sawl tu, yn cynnwys gwefan Sôn am Lyfra, oedd yn nodi fod y nofel lawn cystal heddiw ag oedd hi yn 1986.

Yn eu hadolygiad o’r gyfrol maent yn ychwanegu, “Dyma stori sy’n symud ar garlam, ac mae’r dirgelwch yn cynnal ein diddordeb drwy'r nofel. Roedd yr elfennau ffantasi yn cryfhau’r stori ac yn ychwanegu elfen o antur. Mae’r iaith a ddefnyddir yn hawdd i’w darllen ac yn grêt os am fwynhau stori heb orfod poeni am eiriau anodd. Mae'n amlwg fod yr awdur yn feistr ar sgwennu stori sy’n cydio heb or-gymhlethu’r plot.

Cyhoeddwyd toreth o lyfrau poblogaidd i bobl ifanc gan Gwenno Hywyn yn yr wythdegau a dechrau’r nawdegau, gan gynnwys Tydi Bywyd yn Boen a addaswyd ar gyfer y sgrin fach. Roedd hi’n awdures doreithiog a phoblogaidd iawn ymhlith y to iau a gobaith y Lolfa yw bydd ailgyhoeddi’r gyfrol yn dod â’i gwaith i sylw cenhedlaeth newydd o ddarllenwyr.

Dyma’r bedwaredd gyfrol sydd wedi eu hailgyhoeddi yng nghyfres Gorau’r Goreuon. Y llynedd cyhoeddwyd Dirgelwch y Dieithryn (Elgan Philip Davies), O’r Tywyllwch (Mair Wynn Hughes) a Luned Bengoch (Elizabeth Watkin-Jones).

Cyhoeddir Cyfrinach Betsan Morgan gan Y Lolfa. Pris y gyfrol, sydd ar werth mewn siopau llyfrau drwy Gymru ac ar www.ylolfa.com, yw £6.99.